google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dartio 100,000 pwynt yn Llanuwchllyn i gefnogi claf canser

Advertisements

Cafodd Huw wybod fod ganddo cholangiocarcinoma fis Medi’r llynedd – math o ganser prin sy’n dechrau yn nwythellau’r bustl [bile ducts] ac sy’n effeithio ar yr iau.

Mae’r canser “hefo canran uchel i ddod ‘nôl – tua 47%,” meddai Huw ac mae wedi lledaenu i’w ysgyfaint ac ymhellach.

“O’n i’n nofio yn Llyn Tegid ben bore llynedd, yn trainio ar gyfer triathlon, a dyna pryd ‘nes i ddechrau teimlo wbeth yn brifo yn y torso,” meddai Huw.

Fe wnaeth ganfod lwmp wedi hynny – gan feddwl mai torgest [hernia] oedd yno i ddechrau ac felly aeth i weld meddyg.

Esboniodd y byddai cael diagnosis wedi gallu bod yn broses hir iawn, felly aeth yn breifat, cael sgan MRI a chael canlyniad ymhen ychydig wythnosau.

“O’n i’n gwybod fod o ddim am fod yn ganlyniad da,” meddai Huw, gan ddweud fod ymateb y meddygon wedi awgrymu hynny.

“O’dd y canser wedi spreadio’n barod ac oedd hynny’n dipyn o ergyd, achos o’dd Cadi yn disgwyl babi adeg hynny – rhyw 16/17 wythnos i mewn.”


BBC News

See also  Shorter family court hearings 'encouraging', says minister

Check Also

Bonnie Tyler: Family’s thanks for compassion after funeral

Tyler’s family thanked Only Men Aloud “for the beautiful singing during the service and after”. …

Netball: Reinga Bloxham to take interim charge of Welsh Feathers

LexisNexis Dragons head coach Reinga Bloxham will take charge of Wales for their upcoming Netball …

Carcharu dyn am achosi anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad 140mya

Clywodd y llys fod Max Oliver Ianto Dangerfield, oedd yn 18 oed ar y pryd, …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime