google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynllun hen chwarel: ‘Dim lles i bobol Caernarfon’

Dydy “risgiau sylweddol” cynlluniau dadleuol i ddatblygu hen chwarel ar gyrion Caernarfon ddim yn cyfiawnhau’r swyddi y byddai’n dod yn eu sgil, yn ôl cynrychiolydd grŵp sy’n ymgyrchu i’w hatal.

Mae’r cwmni Jones Brothers yn ceisio cael caniatâd cynllunio i godi gorsaf nwy 20MegaWatt yn hen chwarel Seiont, a fyddai’n gallu cyflenwi’r Grid Cenedlaethol ar gyfnodau o alw mawr.

Gan eu bod hefyd eisiau sefydlu gweithfeydd malu concrit ar y safle mae gwrthwynebwyr yn ofni y bydd llygredd aer a sŵn, ynghyd â mwy o draffig, yn amharu ar iechyd a lles trigolion cyfagos a’r amgylchedd.

Mae cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Fawrth i drafod y cynlluniau, wedi i wrthwynebwyr greu’r grŵp ymgyrchu Grŵp Cymuned Caernarfon Lân.

Wrth amlinellu’r rhesymau dros wrthwynebu ar raglen Dros Frecwast, dywedodd un o drefnwyr y cyfarfod, Mari Williams bod y lleoliad yn “hollol amhriodol” ar gyfer y cynlluniau.

Mae stad fawr o dai, maes clwb rygbi’r dref, parc ac afon ar gyrion y safle, yn ogystal ag Ysbyty Eryri sydd “ond rhyw 200 metr o’r safle”.

Yn ogystal â phryder ynghlych allyriadau posib a llwch yn yr aer, mae yna boeni wedi i’r cwmni ddatgan yn eu cynlluniau y gallai hyd at 120 o lorïau deithio i ac o’r safle bod diwrnod.

Mae hynny, medd Ms Williams, yn cyfateb i “un lori bob pum munud am 10 awr y diwrnod, pump a hanner diwrnod yr wythnos”.

Gan ddadlau dros ddatblygu ynni adnewyddol yn hytrach, dywedodd na fyddai’r gorsaf nwy yn creu gwaith gan ei fod yn “unmanned“.

Does dim sicrwydd hyd yn hyn, meddai, a fydd y swyddi ar gyfer y gwaith malu concrit – hyd at 15, medd y cwmni – yn rhai newydd ynteu’n swyddi sydd wedi eu trosglwyddo.

Ychwanegodd bod nifer y swyddi, beth bynnag, “ddim yn llawer pan ‘dach chi’n meddwl am y risgia’ sylweddol i iechyd a lles pobol a’r amgylchedd”.

Dywedodd llefarydd ar ran Jones Brothers y byddai’r cynllun cynhyrchu trydan wrth gefn “yn sicrhau fod trigolion a busnesau lleol yn derbyn cyflenwad trydan ar adegau pan na ellir cwrdd â’r galw am drydan o ffynonellau adnewyddadwy neu orsafoedd llosgi nwy”.

Fe fyddai’r offer STOR, meddai, “ond yn weithredol am gyfnodau byr pan fydd y trydan a gynhyrchir o ffynonellau haul a gwynt yn isel”, ac “yn cynnig mwy o hyblygrwydd [gan] osgoi’r angen i redeg gorsafoedd cynhyrchu trydan mawr ar raddfa isel rhag ofn y bydd eu hangen i lenwi bwlch”.

Pwysleisiodd na fyddai “newid arwyddocaol i olwg safle Chwarel Seiont” ac na fyddai sŵn yr offer “yn ddim mwy na’r sŵn ‘cefndir’ presennol”.

Dywedodd hefyd na fyddai effaith ar fioamrywiaeth yr ardal, a bod disgwyl y bydd allyriadau o’r orsaf “yn cyfateb i lai nag 1% o’r terfynau… ar gyfer ocsidau nitrogen yn yr awyr”.


Source link

Views: 0

See also  The Welsh bands and artists at Glastonbury 2024

Check Also

Jo Stevens backing Andy Burnham to become next prime minister

Burnham and other potential candidates have from 9 July to 15 July to collect the …

Blog Huw Edwards yn ‘amhriodol ac amharchus’ – ymgyrchwyr

Mae ymgyrchwyr camdrin rhyw yn erbyn plant wedi beirniadu cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards …

Hall cards career best nine under to lead Czech Open

Welsh golfer Lydia Hall leads the Czech Ladies Open following a career best nine-under-par round …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The writing club. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Testimonials coconut point residences.