google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyngor Gwynedd yn dweud wrth ddyn am beidio glanhau arwyddion budr

Advertisements

Mae Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth ddyn am beidio â glanhau arwyddion ffordd, ar ôl iddo dderbyn clod ar-lein am wneud.

Dywedodd Dylan Edwards, 56 o Fethesda, iddo gael ei ysgogi i lanhau arwyddion ar ôl synnu ar ba mor “ddiawledig o fudr” oedden nhw wrth yrru heibio.

Mae wedi derbyn cryn dipyn o glod ar-lein wedi iddo rannu lluniau o’i waith ar yr arwyddion ger y gylchfan yn Nhreborth ar gyrion Bangor.

Mae’n dweud ei fod wedi cael ceisiadau i lanhau arwyddion budr eraill yn y sir, ond ychwanegodd ei fod yn poeni am ymateb y cyngor i’w waith gwirfoddol.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn “gwerthfawrogi cyfraniad” Mr Edwards ond mai “swyddogion sydd wedi derbyn hyfforddiant priodol ddylai gario allan unrhyw waith o fewn ffiniau’r briffordd gyhoeddus”.


BBC News

Views: 0

See also  Dros 50% yn cael diagnosis canser yr ysgyfaint yn y cam mwyaf difrifol

Check Also

Malcolm Uphill: Y gŵr o Gaerffili a dorrodd record byd TT Ynys Manaw

Darn addas i ddysgwyr: Hanes y person cyntaf i orffen ras TT Ynys Manaw ar …

Gallai Eglwys Gadeiriol Tyddewi fynd yn fethdalwr o fewn dwy flynedd – adroddiad

Mae Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn dyddio ‘nôl i’r chweched ganrif. Wedi’i lleoli yn ninas leiaf …

Cynllun i godi fferm wynt ar fynyddoedd Cambria ger Tregaron

Gyda llywodraeth newydd wrth y llyw ym Mae Caerdydd, fe holodd rhaglen Newyddion S4C farn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.