google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyngor Gwynedd i ystyried ymchwiliadau pellach i droseddau Foden

Advertisements

Mae hysbysiad llawn cynnig y Cynghorydd Brown ar wefan y cyngor yn dweud dweud: “Hoffem groesawu cyhoeddi’r Adolygiad Ymarfer Plant ar 4 Tachwedd gan gofnodi ein diolch dwfn i’r cadeirydd Jan Pickles am ei gwaith gofalus, a felly hefyd i’r panel ac i Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.

“Hoffem nodi teitl yr adroddiad, Sef Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder. Mae’n bwysig ein bod yn cydnabod y teitl bob amser wrth drafod yr adroddiad hwn, gan ei fod yn talu teyrnged gwbl haeddiannol i ddewrder plant – plant oedd i fod yn saff yn eu hysgolion, a phlant ddaeth â blynyddoedd o droseddu erchyll un o ddynion mwyaf grymus y sir yma i ben.

“Mae’n dyled iddynt yn enfawr.

“Mae’n meddyliau ni gyda nhw ac rydym yn diolch o waelod calon iddynt am eu penderfynoldeb a’u gwytnwch rhyfeddol.

“Ymrwymwn fel cyngor i ddysgu pob gwers a ddaw yn sgil yr adroddiad, ond ymhellach na hynny, ymrwymwn i edrych ar unrhyw faterion perthnasol sydd wedi disgyn tu allan i gylch gorchwyl yr AYP, a oedd yn edrych ar achos y troseddwr hwn yn y cyfnod rhwng 2017 a Medi 2023.

“Galwn felly ar y cabinet i ystyried pa ymchwiliadau annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn cyfarch yr hyn sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau’r AYP.

“Rydym yn gwbl effro i’r ffaith fod gwaith pellach i’w wneud, ac yn gofyn i’r Cabinet fynd ati yn ddiymdroi i adnabod yr hyn sydd eto i’w gyflawni.

“Mynegwn unwaith eto ein ymddiheuriadau didwyll i’r plant sydd wedi dioddef niwed, a byddwn yn ymroi i droi pob carreg er mwyn sicrhau, hyd orau, ein gallu, fod ‘byth eto’ yn golygu ‘byth eto’.”


BBC News

Views: 0

See also  Ben Sheaf: Wrexham to sign Coventry City midfielder for big fee

Check Also

Cyn-ddisgybl yn gorfod ‘brwydro i brofi’ effaith grŵmio honedig gan Neil Foden

Ar ôl i Foden gael ei garcharu, a gyda chymorth cyfreithiol, mae Meg wedi rhoi …

Eight men charged over child sex gang inquiry by Gwent Police

Eight men have been charged with 34 offences as part of an investigation into historical …

Michael Sheen stars in UFO comedy after spooky sighting in Port Talbot

When Sheen returned to the area with his family in 1977, having lived for a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa kiwi passion fruit guava 20 mg 2 pods. Electronics, computer science, information technology, form started. elfbar elfa basic units (battery carrier).