google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-Ysgrifennydd Cymru’n gweithio i AS Ceidwadol dan ymchwiliad

Mae Laura Anne Jones yn destun ymchwiliad heddlu ynghylch ei threuliau wedi i Gomisiynydd Safonau Senedd Cymru, Douglas Bain, gyfeirio’r achos at Heddlu De Cymru.

Ym mis Mehefin fe welodd BBC Cymru negeseuon testun o ffôn Ms Jones yn gofyn wrth aelod staff: “Wrth wneud y peth petrol – gwnewch fwy nag oeddwn i bob tro – ychwanegwch stwff i mewn os gwelwch yn dda ok”.

Dyw’r cyd-destun ar gyfer y negeseuon WhatsApp ddim yn amlwg.

Dywedodd cyfreithiwr ar ei rhan ar y pryd: “Mae Ms Jones yn fodlon bod unrhyw honiadau mewn perthynas ag amhriodoldeb ynghylch treuliau yn cael eu camdybio yn llwyr.”

Mae’r heddlu wedi dweud bod eu hymholiadau yn parhau i’r achos.

Fe ymddiheurodd Ms Jones ym mis Awst wedyn am ddefnyddio term hiliol sy’n sarhau pobl o dras Chineaidd mewn neges grŵp WhatsApp.

Dywedodd ei bod wedi defnyddio’r term mewn cysylltiad â’r ap TikTok, sy’n eiddo i gwmni technoleg o China.

Mewn datganiad, dywedodd Ms Jones bod y term yn “annerbyniol ac rwy’n difaru’n fawr ei ddefnyddio”.


Source link

Advertisements

See also  NHS Wales: Cancer waiting times branded a crisis by Macmillan

Check Also

I interviewed Tennessee death row inmate Christa Pike 20 years ago

Pike grew up in Beckley, a small, working-class city in southern West Virginia, and her …

World Rally Championship: Elfyn Evans title bid under threat from flying Oliver Solberg

Elfyn Evans’ hopes of claiming a first World Rally Championship (WRC) crown are hanging by …

World Rally Championship: Elfyn Evans title bid under threat from flying Oliver Solberg

Elfyn Evans’ hopes of claiming a first World Rally Championship (WRC) crown are hanging by …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime