google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyn-gynorthwyydd Sunak wedi rhoi bet ar ddyddiad yr etholiad

Mewn datganiad i’r Guardian dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Hapchwarae: “Os bydd unrhyw un yn defnyddio gwybodaeth gyfrinachol er mwyn cael mantais annheg wrth fetio, gall hyn fod yn drosedd o dwyllo o dan adran 42 o’r Ddeddf Hapchwarae.

“Nid yw’r Comisiwn Hapchwarae fel arfer yn cadarnhau nac yn gwadu a oes unrhyw ymchwiliadau ar y gweill oni bai eu bod wedi dod i ben, neu os bydd arestiadau’n cael eu gwneud neu fod cyhuddiadau’n cael eu dwyn yn ystod ymchwiliad troseddol.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol: “Rydym yn ymwybodol o gyswllt rhwng ymgeisydd Ceidwadol a’r Comisiwn Hapchwarae.

“Mae’n fater personol i’r unigolyn dan sylw. Gan fod y Comisiwn Hapchwarae yn gorff annibynnol, ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach, nes bod unrhyw broses wedi’i chwblhau.”

Yr ymgeiswyr eraill sydd yn sefyll yn etholaeth Maldwyn a Glyndŵr yw:

Jeremy Brignell-Thorp, Plaid Werdd

Oliver Lewis, Reform

Glyn Preston, Democratiaid Rhyddfrydol

Elwyn Vaughan, Plaid Cymru

Steve Witherden, Llafur


Source link

Views: 1

See also  Llanelli murder arrest of man, 49, after woman's body found

Check Also

Ateb y Galw: Lucy Borja

Y gantores o Gaerdydd sy’n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw. BBC News Views: 0 Khamrah …

‘Twf yn y galw am addysg hyblyg ond llai o gyllid fesul myfyriwr’ – Y Brifysgol Agored

Ymhlith y rhai sydd yn elwa o ddysgu hyblyg yw Joseph Garcia, 25, o Hendy, …

12 awr o ‘waith tîm, sgil a gwytnwch’ i glirio ‘afon o sbwriel’ o fynydd

Er mai tirfeddianwyr sy’n gyfrifol am glirio gwastraff sydd wedi ei dipio ar dir preifat …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonrank | free link building tool | automated seo backlinks.