google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Teimlad swreal’ ennill Britain’s Got Talent

Advertisements

Beth nesaf felly i’r côr?

“Dwi ddim yn gwybod lle mae hwn am fynd a ni i ddeud y gwir, da ni wedi ennill hwn rŵan, does gennym ni ond tair cân a ‘da ni ond wedi cwrdd rhyw bymtheg o ddiwrnodiau i gyd ers y dechrau a rŵan mae pobl yn sôn am neud rhyw gyngherddau mawr ar draws y wlad, mae gennym ni waith ymarfer,” meddai.

O ran y ffermio roedd Aled yn ddiolchgar i’w dad am warchod y fferm tra oedd yn perfformio ar lwyfan Britain’s Got Talent.

“Dwi’n ddiolchgar i Dad am edrych ar ôl y fferm, roedd o’n rhyw hanner gobeithio y base ni wedi mynd allan yn y semi final fel mod i adre wythnos diwethaf, yn enwedig am ei bod hi’n braf, roedd o’n jocian ‘edrycha ar y tywydd braf ma a tithau i ffwrdd yn Llundain.’ Mae’n rhaid i ni fwynhau’r foment a mynd efo fo.

“Mae na rhyw sôn am fynd i’r stiwdio i recordio’r gân a dod a hi allan gan obeithio codi dipyn o arian eto i elusennau sydd yn ymwneud â amaeth.”

Yn ogystal a recordio’r gân a’r enwogrwydd sy’n dod yn sgîl ennill, mae Aled hefyd yn edrych ymlaen at un peth arall, rhywbeth y mae wastad wedi eisiau ei wneud.

Fel rhan o’r wobr am ennill, mae’r côr yn derbyn £250,000 a chael cyfle i ganu yn y Royal Variety Show ym mis Tachwedd.

“Dwi’n edrych ymlaen i gael mynd i ganu yn Neuadd Albert, mae o’n rhywbeth o’n i eisiau ei wneud. Mae ffrindiau i mi yn côr Machynlleth wedi bod ond roedd gen i gyngerdd arall yr un noson, felly ffaeles i ei wneud o, felly dwi’n edrych ymlaen at gael mynd i ganu fan hynny,” meddai.


BBC News

See also  Tributes paid to man found near Bodelwyddan

Check Also

Woman told ‘nobody wants to see a pregnant person’ in work

The employment tribunal at Swansea Magistrates’ Court was told in May that Morgan had joined …

Gyrwyr wnaeth ddifrodi ardal warchodedig wedi eu dal trwy fideos TikTok

Clywodd Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau fod saith cerbyd 4×4 wedi teithio o Lerpwl i’r …

Cerdded dros 100 milltir o stadiwm Everton i Gaernarfon er cof am Josh Roberts

Un peth arall fydd yn gwneud y daith yn arbennig yw cychwyn ger cofeb er …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime