google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mam plentyn awtistig yn ‘angerddol’ dros ddangos realiti bywyd

Advertisements

Dywedodd Cyngor Gwynedd fod cynorthwyo plant a phobl ifanc i gael y cyfleoedd gorau posib ac i fyw eu bywyd llawn mewn cymunedau yn “hanfodol bwysig i ni”.

“Mae anghenion pob plentyn a’u teuluoedd yn unigryw ac mae ein gweithwyr gofal yn rhoi eu holl egni i geisio sicrhau ein bod yn darparu’r gefnogaeth orau posib i gwrdd ag anghenion plant bob amser,” meddai’r awdurdod.

“Er gwaethaf y buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau mewn llefydd fel Gwynedd, mae cynghorau ar draws y wlad yn parhau i fethu a chyrraedd y galw yn y maes hynod o bwysig yma.

“Ni allwn wneud sylw am blant unigol ond rydym wedi gweld cynnydd yn y galw flwyddyn ar ôl blwyddyn am gefnogaeth i blant awtistig neu sydd â chyflwr niwroddatblygiadol arall ac mae anghenion y bobl ifanc hyn yn gynyddol gymhleth a dwys.

“Ochr yn ochr â’r cynnydd hwn yn y galw, mae prinder gofalwyr a gweithwyr cymdeithasol yn her fawr ar draws Cymru wledig, gan gynnwys yma yng Ngwynedd.

“Rydym yn gwerthfawrogi pa mor bwysig ydi cefnogaeth ysbaid i deuluoedd ac yn cydymdeimlo gyda rhieni sydd angen mwy o gymorth.

“Mae Cyngor Gwynedd yn cynnig amrediad o gyfleoedd i deuluoedd plant sydd â chyflyrau, gan gynnwys seibiannau byr mewn llety arbenigol ac mae cynlluniau ar y gweill i ddatblygu mwy o gartrefi bychan ar gyfer plant ar draws y sir.

“Mae buddsoddiad Cyngor Gwynedd mewn gwasanaethau cymdeithasol i blant ag anghenion wedi mwy na dyblu dros y bum mlynedd ddiwethaf a byddwn yn cynyddu’r gyllideb eto yn 2026/27.”

Bydd Y Byd ar Bedwar: Awtistiaeth Fy Mab ar S4C am 20:00 nos Lun, ac yna ar BBC iPlayer.


BBC News

Views: 1

See also  Murder charge and 'rat-infested food firm'

Check Also

Cardiff teens arrested in Thailand prompting police probe

Two Welsh teenagers have been arrested in Thailand prompting a police investigation into the “circumstances” …

Dau fachgen yn ‘haeddu gwobr’ am helpu dyn sâl yn Tafwyl

“Fi moyn i’r ddau fachgen yma gael rhyw fath o wobr neu anrhydedd,” meddai Mr …

Uefa U19 European Championship: Chris Gunter goes from youngster to Wales mentor

Brett also recalls a tournament in which Wales beat Slovakia, Russia, Northern Ireland and Belgium …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The writing club. 429 too many requests.