google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymru ‘mewn lle da’ cyn digwyddiad all ddenu ‘biliynau mewn buddsoddiad’

Advertisements

Yn rhan o’r uwchgynhadledd mae cynrychiolwyr wedi cael gwahoddiad i brofi bywyd Cymreig.

Mi fydd yna daith o amgylch felodrom Casnewydd gyda’r beiciwr ac enillydd Tour de France, Geraint Thomas.

Bydd cyfle hefyd i fwynhau bwydydd Cymreig gyda’r cogydd Tom Simmons cyn trafodaeth banel ar arloeswyr chwaraeon gyda’r Farwnes Grey-Thompson, Richard Parks a’r Athro Laura McAllister.

Yn ôl Rebecca Evans mae’r uwchgynhadledd yn “rhoi cyfle i ni roi Cymru ar y map”.

“Mae gyda ni bobl yn dod yma o 37 o wahanol wledydd ar draws y byd, 300 o bobl o 250 o fusnesau gwahanol, 150 neu fwy o’r rheiny’n newydd i Gymru”, meddai.

Wrth gael ei herio ar sut fydd y llywodraeth yn mesur llwyddiant yr uwchgynhadledd, dywedodd y “bydd ‘na yn bendant cyfleoedd i gwblhau cytundebau’n gyflym o ganlyniad i’r uwchgynhadledd fuddsoddi ond mae e hefyd am greu cysylltiadau a pherthnasau”.


BBC News

Views: 0

See also  Scenes of celebration in Gaza after peace deal announcement

Check Also

Helynt Cadair ’76: Alan Llwyd yn ailymweld â Steddfod y Ddwy Awdl

Aeth rhai misoedd heibio a phan dderbyniodd yr Eisteddfod ymgais gan RL Jones o’r Hwlffordd, …

Anger over Abertillery school closure amid fall in pupil numbers

Ysgol Clydau, a small school in north Pembrokeshire closed its doors for the final time, …

Pryder am ddau gaiaciwr sydd ar goll o Bwllheli ers dydd Mawrth

Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi codi pryder am ddiogelwch dau gaiaciwr sydd ar goll o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime