google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymorth i farw: ‘Byddwn i’n gwneud yr un peth â mam yn ei sefyllfa hi’

Ym mis Ebrill 2009 penderfynodd Janet ei bod am deithio i glinig Dignitas yn y Swistir – yr unig wlad ar y pryd oedd yn gadael i bobl o dramor fynd yno i gael cymorth i farw.

Ar ôl chwe mis o drefnu fe aeth Janet yno gyda’i gŵr Aled Owen.

“Roedd o mor anodd pan ddywedodd Mam ei bod hi am fynd i Dignitas,” meddai Sian.

“Roedd hi’n caru fy nhad a fi a Richard fy mrawd wrth gwrs, ond doedd hi ddim yn medru byw bellach.

“Doeddwn i ddim isio iddi fynd i’r Swistir, o’n i ddim isio hynny o gwbl.

“O’n i isio dod yn ôl o Japan, ble o’n i’n byw, a gofalu amdani, ond gwrthododd hi hynny.

“Wnes i ddim hyd yn oed cael y cyfle i weld hi, i roi cwtch iddi cyn iddi fynd.

“Mae’n galed dros ben, hyd yn oed yn meddwl amdano fo rŵan mae o dal yn galed, ond roedd Mam yn brifo pob diwrnod ac yn teimlo’n sâl a tydi hynny ddim yn fywyd.

“Y siom fawr ydy ei bod hi wedi gorfod teithio i gael y cymorth. Os oedd o ar gael yma, falle byddai hi wedi aros gyda ni am hirach.”


Source link

Views: 0

See also  Tanau LA: 'Does gen i ddim dillad, does gen i ddim byd'

Check Also

Jo Stevens backing Andy Burnham to become next prime minister

Burnham and other potential candidates have from 9 July to 15 July to collect the …

Blog Huw Edwards yn ‘amhriodol ac amharchus’ – ymgyrchwyr

Mae ymgyrchwyr camdrin rhyw yn erbyn plant wedi beirniadu cyn-gyflwynydd newyddion y BBC, Huw Edwards …

Hall cards career best nine under to lead Czech Open

Welsh golfer Lydia Hall leads the Czech Ladies Open following a career best nine-under-par round …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The writing club. 429 too many requests. Contact information coconut point condos estero.