google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dyn, 18, o lofruddio merch, 17, yng Nghefn Fforest

Advertisements

Mae dyn wedi cael ei gyhuddo o lofruddio merch 17 oed a cheisio llofruddio menyw arall.

Fe gafodd Cameron Cheng, 18, o Drecelyn, Sir Caerffili, ei gyhuddo hefyd o fod â llafn yn ei feddiant ac mi fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ddydd Llun.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i’r digwyddiad ar Wheatley Place yn ardal Cefn Fforest yn y Coed-duon tua 07:15 fore Iau, yn dilyn adroddiadau bod dau berson wedi cael eu hanafu’n ddifrifol.

Cafodd Lainie Williams, 17 oed, o Gefn Fforest, ei chyhoeddi’n farw yn y fan a’r lle.

Mae menyw 38 oed arall, a gafodd anafiadau hefyd, wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu Gwent, Vicki Townsend: “Er ein bod wedi cyrraedd y datblygiad arwyddocaol hwn yn yr ymchwiliad, mae ein hymholiadau’n parhau.”

Maen nhw’n annog unrhyw un â gwybodaeth i gysylltu â nhw.


BBC News

See also  Teulu yn talu teyrnged i 'dad unigryw' wedi gwrthdrawiad angheuol

Check Also

Pum munud gyda Hammad Rind, Bardd y Mis Radio Cymru

Penderfynais i ddysgu Cymraeg fel ymateb i ‘mid-life crisis‘ ar ôl fy mhen-blwydd yn ddeugain …

Adran Premier: Wrexham target treble as new season gets under way

After finishing fifth last term, Briton Ferry Llansawel will hope to make it back into …

Vitor Matos: More to come from Swansea City despite unbeaten start

Vitor Matos says there is more to come from Swansea City after they moved a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime