google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyhuddo dau ddyn yn dilyn lladrad Amgueddfa Sain Ffagan

Mae dau ddyn wedi eu cyhuddo yn dilyn lladrad yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Mae Gavin Burnett, 43, a Darren Burnett, 50, o Northampton wedi’u cyhuddo o ladrata ac mae disgwyl i’r ddau ymddangos yn Llys Ynadon Northampton ddydd Mercher.

Mae dynes 45 oed o Sir Northampton hefyd wedi ei harestio fel rhan o’r ymchwiliad, ac mae wedi ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn parhau i ymchwilio i’r achos ar ôl cael eu galw i’r digwyddiad am tua 00:30 fore Llun.

Cafodd nifer o eitemau, gan gynnwys gemwaith aur o’r Oes Efydd, eu dwyn o arddangosfa yn y prif adeilad.

Mae’r llu yn parhau i chwilio am yr eitemau a gafodd eu dwyn.


BBC News

Advertisements

See also  Cyfraith optio allan o roi organau heb gael 'llawer o effaith'

Check Also

Man in court over explosives found near Aberfan Memorial Garden

A man has appeared in court after suspected explosives were found near the Aberfan Memorial …

FA Cup memories inspiring both Hayden Mullins and Newport County

Manager Hayden Mullins and Newport County are well acquainted with the drama of the FA …

Y ddwy ffrind â’r dyhead i ‘greu rhywbeth i gymuned Capel Bangor’

Gyda’r ddwy yn famau ifanc mae unigrwydd wedi bod yn sbardun iddynt hefyd, fel mae …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime