google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cyfraith optio allan o roi organau heb gael ‘llawer o effaith’

Advertisements

Ar ôl i nifer y bobl oedd yn cytuno i roi organau gynyddu yn ystod y dair blynedd ar ôl cyflwyno’r ddeddf newydd yng Nghymru, fe benderfynnodd gwledydd eraill y DU wneud yr un peth.

Ond erbyn hyn mae canran y bobl sy’n cydsynio i roi organau wedi gostwng i’r lefel isaf mewn degawd, er i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gyflwyno cyfreithiau tebyg o 2020 ymlaen.

Mae nifer y bobl yn y DU sydd ar y rhestr trawsblaniad wedi cyrraedd y nifer mwyaf erioed.

Ar hyn o bryd mae mwy na 2,800 o bobl yn aros am organ neu feinwe newydd.

Mae’r oedi’n gallu cael effaith mawr ar iechyd meddwl, meddai un sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg.

Bu rhaid i Carwyn Jones, 39, o Bontsiân yng Ngheredigion, aros bedair blynedd cyn cael aren a phancreas newydd.

“Mae fel disgwyl cael y loteri numbers” meddai, “mae’n rhaid just cadw fynd gyda bywyd.

“Ar y dechrau roeddwn i’n meddwl bydde fe’n digwydd yn eitha’ cloi.”

Ond yr hiraf yr oedd yn rhaid iddo aros a’r holl “alwadau i fynd lawr a dim byd yn digwydd, dechreuais i fynd i le tywyll wedyn, a meddwl sai byth yn mynd i fod yn well a mae’r amser gorau wedi mynd” meddai.


BBC News

See also  Test Match Special

Check Also

Ail-fyw buddugoliaeth enwog pêl-droedwyr Merthyr ar lwyfan

Gyda disgwyl i nifer o’r chwaraewyr o 1987 ddod i wylio’r ddrama yn Theatr y …

Brian Barry-Murphy: Head coach to become Cardiff’s longest serving boss since Neil Warnock

Barry-Murphy took the reins at Cardiff during a difficult period for the club after their …

Reform UK Wales leader says Plaid may not finish Welsh government term

Reform’s Welsh leader has said Plaid Cymru is at risk of not being able to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime