google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwmni Roberts of Port Dinorwic ger Caernarfon ar werth

08d8b6d0 3007 11f0 a64d f72bff507fef.jpg

Advertisements

Mae cwmni 101 oed o Wynedd – sy’n paratoi prydau parod ar gyfer archfarchnadoedd a thai bwyta – wedi cael ei roi ar werth.

Yn ôl adroddiadau, mae dros 90 o weithwyr Roberts of Port Dinorwic ger Caernarfon wedi cael gwybod y gallai’r cwmni orfod cau os nad oedd modd dod o hyd i brynwr.

Gwasanaeth cyfrifwyr ac ymgynghorwyr busnes BDO sy’n delio gyda’r gwerthiant, ond nid oedden nhw na chwmni cyfreithwyr Methdalu a Masnachu Knox am wneud sylw ar y mater.

Cafodd cwmni Roberts ei sefydlu yn 1924 pan aeth Thomas Roberts ati i wneud pasteiod porc i siop bwtsiwr.

Maen nhw bellach yn cyflenwi i dai bwyta, tafarndai a manwerthwyr.

Dywedodd Cyngor Gwynedd bod tîm cefnogi busnes yr awdurdod wedi “cysylltu gyda Roberts of Port Dinorwic i ganfod a oes unrhyw gefnogaeth y gallwn ni ei ddarparu i’r cwmni a’u gweithlu”.

Dywedodd Aelod Senedd Arfon, Siân Gwenllian o Blaid Cymru: “Mae unrhyw newyddion am beryglu swyddi yn ergyd drom i ardal fel Arfon.

“Rydw i wedi cysylltu â’r cwmni i gynnig fy nghefnogaeth mewn unrhyw ffordd y medraf, ac rwy’n meddwl am y staff yn y cyfnod ansicr yma.”


BBC News

See also  World Snooker Championship: Luca Brecel fights back to beat Ryan Day in first round

Check Also

Megan Davies: Loughborough Lightning record holder called-up by Wales

Scrum-half Megan Davey has been called up to Wales’ extended training squad for the upcoming …

Pryder yn tyfu am glefyd y tafod glas wedi i achosion ‘ffrwydro’

Mae feirws y tafod glas (BTV) yn glefyd heintus, sy’n cael ei ledaenu yn bennaf …

Wrexham v Watford: Liberato Cacace, Ben Sheaf and Josh Windass to be assessed before game

Phil Parkinson says Liberato Cacace, Ben Sheaf and Josh Windass will all be assessed before …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime