google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwest Ynys Enlli: Dyn wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan gerbyd

Mae cwest wedi clywed fod dyn wedi marw ar Ynys Enlli ar ôl cael ei wasgu yn erbyn wal gan gerbyd y bu’n ei yrru.

Roedd Christopher Charles Lamont wedi ei gyflogi dros dro i gludo bagiau rhwng fferi a llety ar yr ynys.

Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod marwolaeth Mr Lamont, 63 oed o Sir Amwythig, wedi cael ei gadarnhau am 17:40 ar 19 Mehefin.

Wrth agor y cwest, fe ddywedodd y Crwner Kate Robertson: “Rhywbryd cyn 16:47 ar 19 Mehefin, mae’n ymddangos i’r cerbyd y bu Mr Lamont yn ei yrru ddechrau rhowlio’n ôl, wedi iddo ei adael.

“Fe gafodd ei ddarganfod rhwng cefn y cerbyd a wal gerrig, gydag anafiadau angheuol.”

Fe wnaeth archwiliad post mortem ar 25 Mehefin nodi anafiadau i’w frest a’i fol o ganlyniad i gael ei wasgu fel achos dros dro ei farwolaeth.

Cafodd y cwest ei ohirio wrth i ymchwiliadau pellach gael eu cynnal.


Source link

Views: 1

See also  Wales captain Dewi Lake wants 'more of the same' effort against Italy

Check Also

Deisebau i ‘glywed barn y bobl’ – a ddylid caniatáu newid lliw Melin Llynon?

Mae Mr Holt hefyd yn pwysleisio y bydd yn gwneud ei orau i geisio sicrhau …

Dyn wedi mynd â’i wraig sâl adref o’r ysbyty dros ‘ofnau diogelwch’

Dywed Mr Dutton, o bentref Burton ger Wrecsam, i’w wraig gael gwybod ddechrau Gorffennaf fod …

Y pêl-droediwr o’r Ariannin a fyddai wrth ei fodd yn chwarae dros Gymru

Mi gafodd Jeremias ei eni a’i fagu yn Nhrelew, dinas gafodd ei sefydlu gan y …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa kit. Elfbar elfx kit silver blue. Hostrite cloud hosting news domains and service updates.