google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cwest: Dyn, 22, wedi marw wedi iddo gael ei drywanu ger Pontypridd

Advertisements

Bu farw dyn yn Rhydyfelin ger Pontypridd ym mis Medi wedi iddo gael ei drywanu yn ystod ffrwgwd ar y stryd, mae cwest wedi clywed.

Cafodd Liam Woolford, 22, ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd wedi iddo gael anaf dwfn yn ystod y digwyddiad.

Clywodd y cwest fore Mercher yn Llys y Crwner ym Mhontypridd fod Mr Woolford wedi marw yn ystod llawdriniaeth a bod Heddlu’r De wedi ymateb i’r digwyddiad wedi iddyn nhw gael nifer o alwadau gan y cyhoedd.

Mae archwiliad post mortem wedi’i gynnal a nodwyd dros dro bod Mr Woolford wedi marw o “anaf i’r bongorff (trunk) o ganlyniad i drywanu”.

Yn ystod y gwrandawiad clywodd y llys fod Mr Woolford yn byw ym Mhorth ac wedi’i eni yn Llantrisant.

Fe wnaeth y crwner Kerrie Burge ohirio’r cwest tan ddyddiad diweddarach a chydymdeimlodd â theulu Mr Woolford.

Mae pedwar dyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â’i farwolaeth ac mae disgwyl iddyn nhw ymddangos yn y llys eto yn ddiweddarach y mis hwn.


BBC News

See also  Storm Floris: Rhybudd melyn am storm i ogledd Cymru ddydd Llun

Check Also

Welsh Gender Service surgical referrals paused for clinical review

The Welsh Gender Service has paused scheduled and new referrals for gender-affirming surgeries, after the …

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime