google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Crwner: ‘Cyfrannodd esgeulustra bwrdd iechyd at farwolaeth dyn’

Yn y gwrandawiad yn Rhuthun, fe amlinellodd y crwner Kate Robertson nifer o faterion a “chyfleoedd coll” a arweiniodd at Ben yn anafu ei hun.

Roedden nhw’n cynnwys methiant i sicrhau bod y ward yn ddiogel i gleifion iechyd meddwl oedd o dan risg o anafu eu hunain.

Pan aeth Ben, o Ddinbych, yn wirfoddol i’r ward ar 11 Rhagfyr 2020, doedd dim cyfarwyddyd clir i staff ar sut i’w drin a doedd dim cynllun ar gyfer ei ofal.

Ni chafodd sesiynau un i un rhwng Ben a staff meddygol eu cwblhau ar y diwrnod yr anafodd ei hun.

Doedd dim archwiliadau iawn o ystafelloedd, doedd dim cofnodion bod staff wedi cadw golwg ar Ben bob 15 munud a doedd staff ddim wedi eu hyfforddi’n ddigonol i weithio ar ward iechyd meddwl gofal dwys.

Wrth gofnodi casgliad naratif, dywedodd y crwner: “Oni bai am y casgliad yma o fethiannau difrifol, fyddai Ben ddim wedi marw pan wnaeth o.

“Fe gyfrannodd esgeulustod at farwolaeth Ben.”


Source link

Views: 1

See also  Autumn: Don't forget the clocks go back this weekend

Check Also

Taith o gwmpas pob fferm odro ym Môn i godi arian i’r Sioe Fawr

“Mae’n ffordd o gadw’n heini a chael busnesu,” meddai Gareth. Ychwanegodd ei fod yn mwynhau …

Paul Mullin: An open letter as cult-hero striker leaves Wrexham

After 110 goals and three promotions in five years, Paul Mullin has left Wrexham. The …

AS yn galw am adfer yr enw Glyndŵr ar brifysgol Wrecsam

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, Joe Yates, wrth y BBC: “Rydym wedi ein gwreiddio yn ein …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The writing club. 429 too many requests.