google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cronfa gwerth £1m i ymchwilio i lygredd Afon Gwy

Bydd y ddwy lywodraeth yn cyfrannu £500,000 yr un i’r gronfa ymchwil newydd.

Mae disgwyl i ddirprwy brif weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies AS, a gweinidog dŵr Llywodraeth y DU, Emma Hardy AS, wneud y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â’r afon i gwrdd â grwpiau a gwleidyddion lleol.

Bydd y rhaglen ymchwil yn craffu ar ffynhonellau llygredd sy’n effeithio ar yr afon, meddai’r gweinidogion.

Bydd hefyd yn astudio effeithiau newid arferion ffermio, datblygu a phrofi ffyrdd newydd o wella ansawdd dŵr ac archwilio’r hyn sy’n gyrru dirywiad mewn bywyd gwyllt a llif dŵr.

Dywedodd Mr Irranca-Davies bod hyn yn “gam pwysig i amddiffyn Afon Gwy”.

“Trwy ddod ag arbenigedd o ddwy ochr y ffin ynghyd, a gweithio’n agos gyda grwpiau lleol, gallwn ddeall yn well yr heriau sy’n wynebu’r afon a dod o hyd i’r atebion a fydd yn gwneud gwahaniaeth,” meddai.

Dywedodd Emma Hardy y byddai’r fenter yn adeiladu ar waith arall gan gynnwys “prosiect gwerth £20m sy’n mynd i’r afael â lefelau ffosfforws mewn pridd drwy’r rhaglen Defnydd Tir ar gyfer Sero Net, Pobl a Natur”.

Ond galw’r £1m yn “ddiferyn bychan iawn, iawn” wnaeth Janet Finch-Saunders AS, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd, gan ddadlau y byddai’n well ei wario ar “uwchraddio safleoedd trin dŵr ger afonydd yng Nghymru”.


BBC News

Advertisements

See also  Euro 2025 play-off: ' They haven't seen anything yet' - Wales' Angharad James

Check Also

Reu! Llechi wedi eu naddu ym Mhen-y-groes i ddathlu cyfraniad Dyfrig Evans

Meddai Llio: “Mae’n gyfle da i atgoffa pobl o’r cyfoeth o bobl sy’n byw yn …

2026 World Track Cycling Championship: Great Britain’s men out in first round in team sprint while women takes silver

Great Britain’s Joe Truman said team-mate Matt Richardson’s withdrawal was “not ideal” and they had …

Newport woman died after paint can exploded in garden fire

A woman died three months after suffering severe burns when a paint canister exploded in …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime