google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Criw dawns y blodau Eisteddfod yr Urdd 1976 yn ail-greu llun

Advertisements

Rywsut neu gilydd fe gefais y dasg o gael pawb at ei gilydd a dyma fynd ati i drio ffeindio pawb drwy’r cyfryngau cymdeithasol, a thrwy gyn-ffrindiau ysgol yr oeddwn dal mewn cysylltiad â nhw.

Yn anffodus roeddwn yn ymwybodol erbyn hynny fod un o’r merched yn y llun, Siân Hughes, ddim hefo ni bellach.

O fewn dim amser roeddwn un ffordd neu’r llall wedi gwneud cysylltiad hefo pawb heblaw un, ac fe wnes i fynd ati i wneud trefniadau ar gyfer yr aduniad ar chael tynnu’r llun i gofnodi’r achlysur.

Yn anffodus, yr un person nad oeddwn i wedi cael gafael arno fo oedd Tegid Williams o Lansadwrn.

Roeddwn i wedi cyrraedd y pwynt lle roeddwn am geisio cysylltu â fo drwy ei chwaer, ond yn drist iawn cyn i mi gael cyfle i wneud hynny daeth y newyddion ym mis Hydref 2025 fod Tegid wedi marw mewn damwain car.

Yn y pen draw, 20 o’r 27 oedd yn y llun gwreiddiol ddaeth at ein gilydd ar y prynhawn dydd Sul hwnnw i ail-greu y llun.

Er fod llawer ohonom dal yn byw’n lleol, roedd nifer wedi teithio cryn bellter. Roedd un wedi teithio yr holl ffordd o Northampton ac ambell un wedi teithio o dde Cymru.

Ar ôl tynnu’r llun cawsom ddathliad bach yn y Clwb Criced ym Mhorthaethwy.

Gofynnodd rhywun wrtha i be’ oedd pwrpas cael pawb at ei gilydd a be’ oedda ni am neud hefo’r llun?

Mewn gwirionedd, ond ‘neud o am dipyn o hwyl wnes i, a dwi’n falch o ddeud fod pawb wedi gwir fwynhau cael dod ynghyd, dal i fyny hefo’n gilydd a hel atgofion ar ôl nifer o flynyddoedd.

Mae cynlluniau am gael tynnu’r llun nesaf i ddathlu’r can mlwyddiant on hold ar hyn o bryd!


BBC News

Views: 2

See also  Children in care need better protection, Reform's Sarah Cooper-Lesadd says

Check Also

Florian Bianchini: Future doubt as forward left out of Swansea City tour squad

They are due to return to pre-season training after the trip, while the other Swan …

North Wales Police officer developed PTSD over handling of affair complaint, court told

A consultant psychiatrist has told a court that a former North Wales Police officer developed …

St Mellons crash: Man charged with fraud relating to car MOT

A 47-year-old man has been charged with fraud relating to the car involved in a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
adhd megadone online pharm.