google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Cost troseddau gwledig ar gynnydd yng Nghymru

Mae undeb NFU Cymru yn galw am gael Arolygydd Troseddau Gwledig yn ardal Dyfed Powys i fynd i’r afael â’r broblem.

Ar hyn o bryd mae swyddogion troseddau gwledig ar gael yn y llu ond yn ôl Garry Williams o NFU Cymru mae angen cydlynu’r ymateb i droseddau o’r fath yn fwy effeithlon.

“Smo ni’n credu bod ni’n gofyn gormod.

“Mae 32 o arolygwyr yn Dyfed Powys – un o’r regions fwyaf gwledig yng Nghymru a Lloegr.

“Ni’n gofyn am un arolygydd i ofalu ar ôl troseddau gwledig a chael swyddogion neu inspector sydd gyda phrofiad mewn amaeth.”

Dywedodd Comisiynydd Heddlu a Throsedd y llu, Dafydd Llewelyn ei fod yn “gefnogol” i gael arolygydd troseddau gwledig.

“Wrth gwrs penderfyniad y prif gwnstabl fydd hynny.

“Mi fyddai’n gweithio gyda’r undebau amaethyddol a’r prif gwnstabl i sicrhau bod yr adnoddau priodol yn cael eu rhoi i faes pwysig iawn mewn ardal wledig tebyg i Dyfed Powys.”

Mewn ymateb fe ddywedodd y Prif Uwch-arolygydd Clark Jones-John ei fod yn “sylweddoli’r effaith sylweddol y mae troseddau gwledig yn ei gael ar y cyhoedd ac o fewn y cymunedau ffermio”.

Ychwanegodd: “Rydym yn edrych yn barhaus ar ffyrdd o wella ein gwasanaethau, rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu ymhellach ag NFU Cymru ac asiantaethau eraill fel y gallwn gydweithio i amddiffyn y cyhoedd a busnesau yn effeithiol yn ardaloedd gwledig Dyfed a Phowys.”


BBC News

Advertisements

See also  Illegal working arrests almost double in Wales

Check Also

WXV: Wales’ Seren Lockwood out of USA Test with Carys Cox set for return

Scrum-half Seren Lockwood has been ruled out of Wales’ second WXV Global Series fixture, against …

Cwmni yswiriant Admiral i dorri tua 500 o swyddi

Mae cwmni yswiriant Admiral wedi cyhoeddi cynlluniau i dorri tua 500 o swyddi i wneud …

Admiral UK insurance to cut 500 jobs to save £100m

Insurer Admiral will cut 500 jobs in the UK to save £100m, it has announced. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime