google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Corff bachgen 15 oed wedi’i ganfod ar ôl mynd i drafferthion yn y môr

Mae corff bachgen 15 oed a aeth i drafferthion yn y môr oddi ar arfordir Sir Benfro ddiwedd Awst wedi cael ei ganfod.

Fe gafodd Gwylwyr y Glannau wybod tua 15:30 brynhawn Sul, 30 Awst, bod tri pherson “mewn trafferthion yn y dŵr ac angen cymorth” yn ardal Marloes ger Aberdaugleddau.

Llwyddodd dau o’r rheiny i achub eu hunain, ond roedd un yn dal ar goll.

Fe dreuliodd criwiau achub 22 awr ar draws dau ddiwrnod yn chwilio am y nofiwr ifanc – bachgen 15 oed yn ymweld â’r ardal ar wyliau o ardal Sir Efrog, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd yr heddlu ddydd Mawrth yr wythnos diwethaf fod yr ymateb i’r digwyddiad wedi dod i ben, ar ôl i dimau chwilio o’r heddlu, Gwylwyr y Glannau a’r RNLI ddefnyddio adnoddau i chwilio o’r awyr, y môr ac ar y tir.

Daeth y chwilio i ben yn swyddogol am 19:30 ar y nos Lun ar ôl i “ddim byd gael ei ganfod a dim gwybodaeth newydd” meddai’r RNLI.


BBC News

Advertisements

See also  Cardiff search for wing on short-term deal after Millard injury

Check Also

Cwis: Nofelau enwog y Gymraeg

Yr wythnos hon oedd dyddiad y ganwyd un o nofelwyr enwocaf y Gymraeg, Daniel Owen. …

Gwasanaeth newydd yng Ngwynedd yn helpu pobl ifanc i gael swyddi

Yn ogystal â chynnig cymorth a chyngor, mae GISDA hefyd yn darparu cyfleoedd profiad gwaith …

Taulupe Faletau: Wales and Cardiff number eight suffers new injury blow

Faletau has played only 31 times for Cardiff since joining from Bath in 2022 and …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime