google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Comisiwn Etholiadol yn galw am etholiad Senedd ‘heb gamdriniaeth’

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Rhydian Thomas: “Yn amlwg mae ‘na broblemau ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol ond hefyd ‘da ni’n gweld mwy a mwy o ymgeiswyr ar y stryd yn cael eu bygwth.

“Felly ry’n ni ‘di partneru gyda’r heddlu a Sefydliad Jo Cox i alw am ymgyrch ym mis Mai, yn etholiad y Senedd, sy’n rhydd rhag y math yma o gamdriniaeth a bygythiadau.”

Dywedodd fod y pedwar llu heddlu yng Nghymru wedi penodi pwynt cyswllt i ymgeiswyr i “ddelio yn benodol gyda’r math yma o gwynion” ac yn darparu sesiynau hyfforddi a chyngor diogelwch.

Mae’r comisiwn wedi cyhoeddi egwyddorion newydd ar gyfer ymgyrchu, gan annog “cadw parch, diogelwch a gonestrwydd” mewn dadleuon gwleidyddol.

Ychwanegodd Mr Thomas: “Mae’n bwysig fod ymgeiswyr a’r pleidiau gwleidyddol yn meddwl am y math o iaith maen nhw’n defnyddio yn yr etholiad hefyd.”

Advertisements




BBC News

Views: 3

See also  Eisteddfod yr Urdd: Maldwyn wedi casglu dros £300,000

Check Also

Lluniau: Dydd Llun yn Eisteddfod yr Urdd 2026

Roedd yr haul yn gwenu’n braf ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghae Sioe Môn …

Man arrested as five people injured in crash

Three of the five were seriously injured and the arrested man is in custody. BBC …

Tri wedi’u hanafu ar ôl gwrthdrawiad yng Ngwasanaethau Porth Caerdydd

Mae tri o bobl wedi eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad mewn gorsaf wasanaeth ar draffordd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.