google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cofio’n ôl i marathon cyntaf Caerdydd wrth baratoi am y ras nesaf

Advertisements

Fe redodd y ddau hanner marathon gafodd eu cynnal yng Nghaerdydd yn 2022, seiclo 106 milltir yn y Tour de Môn a ras beics 100 milltir y Carten o Gaerdydd i Ddinbych y Pysgod. Ac mae wedi gwneud hynny bob blwyddyn ers hynny.

Gyda’r ddwy ras feics wedi eu gwneud eisoes eleni, dim ond yr hanner marathon sydd ganddo i’w gwblhau cyn ei ben-blwydd yn 80 ar 11 Tachwedd.

“Sai’n nerfus – fi’n excited,” meddai John, fydd yn casglu arian i’r elusen plant NSPCC. “Fi wedi trainio’n iawn – sdim byd yn twitcho, sdim byd yn bod a ‘sa i ar unrhyw dabledi. Fi’n lwcus iawn fel yna, ac mae lot o lwc yn involved. Dwi wedi cael lot o anlwc ond fi’n lwcus hefyd.

“Mae pawb yn helpu ei gilydd yn y ras ac mae awyrgylch bendigedig.

“Mae bands yn ‘ware, ma’r côr yn ‘ware, street band rwle arall, trwmpets, ma’ partis yn mynd mlân – ma’n grêt.

“A ma’n syndod faint mae hynny’n helpu chi – ma’ shwt gymaint yn dy ben di.”

Ac mae John, sy’n dad i’r gyflwynwraig Heledd Cynwal, yn barod yn edrych ymlaen at y flwyddyn nesaf – ac wedi gosod her i gael tair cenhedlaeth o’i deulu i redeg y ras.

“Flwyddyn nesaf bydda i’n 80, fydd Heledd dal yn 50, a fydd fy ŵyr i, sef ei chrwt hi, yn 20. Felly 30 mlynedd rhyngddo ni, felly flwyddyn nesa fydd rhaid iddi ‘neud e.”


BBC News

Views: 2

See also  Craig Bellamy: New boss 'the ideal fit' for Wales - David Adams

Check Also

Mum dies after partner found dead and children ill after beauty spot visit

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Newport couple turn mid-terrace garden into tropical jungle

The haven now features colourful flowers from around the world. Dave, who has always been …

Cardiff woman’s trip to India left her with 38 parasites in her brain

Scans found huge swellings on Lowri’s brain around the parasites. Following the collapse she became …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime