google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cnoc ar y drws un Dolig: Yr ymwelydd wnaeth aros am 45 mlynedd

Bu farw Ronnie yn 2020, yn ystod cyfnod clo Covid-19.

“O’n i yn fy study lawr grisiau pan gefais i alwad ar fy ffôn symudol gan Ronnie, yn dweud ei fod wedi disgyn ac yn methu codi. Roedd e wedi cael strôc a doedden ni ddim yn cael mynd i’r ysbyty gyda fe oherwydd y rheolau Covid.

“Beth oedd yn drist oedd am ei fod ddim wedi cael diagnosis swyddogol o anabledd, doedd y tîm anabledd yn yr ysbyty ddim yn gallu caniatáu ni gael yr hawl i ymweld, ac roedd hynny’n anodd iawn.

“‘Nes i ddweud wrth Dianne rhyw dair neu bedair blynedd cyn i Ronnie farw, mod i ddim yn siŵr os oedd unrhyw un erioed wedi dweud wrtho fe bod nhw’n ei garu e. Felly, ‘nes i ddechrau dweud wrtho cyn iddo fynd i’r gwely bob nos ‘caru ti Ronnie’ – a bydda fe’n mymblo fe’n ôl.

“Wrth iddo fynd i’r ambiwlans wedi’r strôc ‘nes i weiddi ‘caru ti Ronnie’, a ‘naeth e weiddi ‘caru ti Rob’ yn ôl.

“Dwi’n difaru na wnaethon ni ddechrau dweud hynny wrtho 40 mlynedd cyn iddo farw yn hytrach na phedair blynedd.

“‘Nes i ddysgu y dylen ni fod yn onest am ein teimladau, a dweud wrth y rhai sy’n agos i ni ein bod ni’n eu caru nhw. Weithiau mae’n anodd dweud, ond rwy’ mor falch wnes i gyda Ronnie – roedd e’n bwysig iddo fe.”

Fe gafodd Rob a Dianne ymweld â’u cyfaill yn ei oriau olaf, a fu farw Ronnie ym mreichiau Rob, tra roedd Dianne yn canu iddo.


BBC News

Advertisements

See also  Do you know the players in England's latest squad?

Check Also

Plac i’r ddynes a ddenodd enwau mawr y byd madarach i’r gogledd

Oherwydd ei bod hi’n ddynes, roedd yna sefydliadau gwyddonol a oedd yn gwrthod ei derbyn …

Corau’n ‘siomedig’ am gostau perfformio mewn gŵyl gydag Andrea Bocelli

Mae tua 40 o gorau a grwpiau canu wedi mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i …

Dathlu 70 mlynedd ers i Hollywood ymweld ag Abergwaun

Mae tref Abergwaun yn dathlu 70 mlynedd ers i un o ffilmiau mwyaf Hollywood ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime