google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ymosodiad seibr ar systemau heddlu ‘o bosib wedi peryglu data staff’

Dywed datganiad y llu bod arbenigwyr diogelwch seibr yn rhoi cymorth i’r ymchwiliad a bod camau priodol wedi eu cymryd i adfer gwasanaethau wedi’r ymosodiad.

“Ar hyn o bryd, dyw ein hymchwiliad heb ganfod tystiolaeth fod data personol y cyhoedd wedi ei gyrchu neu ei beryglu o ganlyniad i’r digwyddiad yma,” dywedodd.

“Rydym, fodd bynnag, yn parhau i ymchwilio a allai unrhyw wybodaeth ynglŷn â’n staff fod wedi ei gyrchu neu ei beryglu, ac rydym yn cymryd pob cam priodol i warchod y wybodaeth yna ac yn rhoi cyngor priodol i gydweithwyr os oes angen.

“Mae’r ymchwiliad yn parhau ac yn cael ei reoli gan Tarian trwy eu huned troseddu seibr rhanbarthol ac rydym yn parhau i fonitro systemau’r llu’n fanwl.

“Rydym yn deall y pryder y gallai hyn achosi ac rydym eisiau rhoi sicrwydd i’r cyhoedd ein bod wedi, a byddwn yn parhau i gymryd yr holl gamau angenrheidiol i warchod ein gwybodaeth a chynnal diogelwch ein systemau.”

Gan ddiolch i’r cyhoedd “am eich amynedd a dealltwriaeth”, ychwanegodd y llu y bydd yn rhoi mwy o wybodaeth “pan rydym mewn sefyllfa i wneud hynny”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Zahra Errami: 'Cyffuriau wedi bod o amgylch fi ers fy arddegau'

Check Also

Corau’n ‘siomedig’ am gostau perfformio mewn gŵyl gydag Andrea Bocelli

Mae tua 40 o gorau a grwpiau canu wedi mynd ar y cyfryngau cymdeithasol i …

Dathlu 70 mlynedd ers i Hollywood ymweld ag Abergwaun

Mae tref Abergwaun yn dathlu 70 mlynedd ers i un o ffilmiau mwyaf Hollywood ar …

Netball World Cup: Georgia Rowe, the goal shooter who learned to love her height

“I really disliked being six foot five and now I just walk around and I …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime