google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Clwb cerdded yn rhoi hyder i bobl â nam golwg

491d62c0 3c9d 11f0 9aef 6d0f1feb6f72.jpg

Advertisements

Tra bo’ rhai aelodau’n cerdded gyda chymorth gwirfoddolwyr, bydd rhai yn cerdded gyda chi tywys fel Mark ei hun sy’n cerdded gyda’i gi, Forest:

“Ges i Forest dair blynedd yn ôl. Dwi wedi ei enwi fo ar ôl Forrest Gump gan ei fod o’n rhedeg mor gyflym! Mae o’n gi ffantastig.

“Dyma’r trydydd ci tywys i mi ei gael a chyn cael Forest ro’n i’n dibynnu ar gerdded gyda braich rhywun arall am gyfnod,” meddai.

“Rydan ni wedi cael mwy o gŵn tywys yn ddiweddar na ‘dan ni wedi ei gael erioed. Fis dwytha aethon ni i Niwbwrch a cherdded i draeth Llanddwyn, mi fuodd yna chwe chi tywys yn rhedeg ar y traeth yn fan’no a roeddan nhw wrth eu boddau.”

Sut dywysydd ydy Forest?

“Mae o’n ffantastig, werth y byd,” meddai Mark.

“Dwi’n byw ym Methesda ac mae Forest yn gwybod ei ffordd rŵan yn grêt felly dydw i ddim angen deud llawer wrtho fo.

“Mae o wedi ei hyfforddi yn Saesneg felly os dwi’n rhoi unrhyw fath o ormchynion iddo fo, yn Saesneg dwi’n eu rhoi nhw. Unwaith dwi angen deud wrtho fo ‘Forest left, Forest right’ a mae o’n gwybod.

“Pan es i i Gaerdydd i’w nôl o doeddan nhw ddim yn saff os oedd o’n cyrraedd y safon. Ddeudon nhw wrtha i ‘he doesn’t like this, doesn’t like that, doesn’t wag his tail’ ond erbyn hyn dydi ei gynffon o ddim yn stopio symud. Mae o’n gi hapus iawn.”


BBC News

Views: 0

See also  Cass gender care review 'disappointing', says trans man

Check Also

Newidiadau i gyrsiau TGAU Cymraeg a Saesneg wedi pryderon athrawon

Mae rhai o’r cyrsiau TGAU newydd yn cynnwys llawer mwy o asesiadau amrywiol, gyda llai …

Dyn ‘ddim yn rasio ar unrhyw adeg’ cyn gwrthdrawiad laddodd tad i ddau

Roedd Mr Ben Yusaf dan deimlad yn sôn sut wnaeth alw ar rywun gerllaw i …

Canu ar Fryn Briallu i gofio cyfraniad Iolo Morganwg

Fodd bynnag, er ei bersonoliaeth mawr, dadleuol, mae Rhian yn teimlo fod ei gyfraniad i …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Artificial intelligence hedge fund.