google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrnged i ddyn 18 oed ‘oedd â’i holl fywyd o’i flaen’

Advertisements

Dywedodd ei deulu fod Dominic Bailey newydd gwblhau ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, lle’r oedd wedi bod yn ddisgybl am y saith mlynedd diwethaf.

Ychwanegodd ei deulu ei fod wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Malaysia, ond wedi “penderfynu dilyn ei freuddwyd o deithio’r byd yn lle”.

Mewn teyrnged, dywedon nhw: “Doedd neb yn debyg i Dominic.

“Roedd yn gallu rhoi gwên ar wyneb unrhyw un ac roedd yn ddyn ifanc hynod ddeallus oedd â’i holl fywyd o’i flaen.”

Ychwanegodd ei deulu eu bod wedi’u dinistrio gan ei farwolaeth ac “na fydd bywyd byth yr un fath hebddo”.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod gyrrwr a theithiwr y Land Rover wedi cael eu cludo i’r ysbyty, lle maen nhw’n parhau i gael triniaeth.

Mae Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yr heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu ffordd o yrru’r ddau gerbyd cyn y digwyddiad i gysylltu â nhw.

Mae swyddogion hefyd yn annog unrhyw un oedd yn teithio drwy’r ardal ar y pryd i wirio eu lluniau dashcam neu deledu cylch cyfyng preifat am unrhyw luniau perthnasol.


BBC News

Views: 0

See also  Gwyddonydd o Gymru: 'Gorddefnydd o wrthfiotigau yn bryder'

Check Also

Rugby league's record loss but Crusaders win survival

North Wales Crusaders lost 134-0 at home to London Broncos – but heavy defeats have …

Tyrfa yng Nghaernarfon ar ôl i adaregwr lleol weld crëyr o dramor

“Tua 15 mlynedd yn ôl oedd yna Ehedydd du (sy’n cynefino yng ngogledd-ddwyrain Ewrop) wedi …

‘Ni fyddwn i yma heddiw’ heb gymorth ar ochr y ffordd a 100 peint o waed

Wrth siarad ar Radio Wales fore Llun, esboniodd Richard sut ddigwyddodd y cyfan. “‘Nôl yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. 429 too many requests. Artificial intelligence hedge fund.