google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 23 2026

Cimychiaid prin wedi marw yn Afon Irfon

Mae pobl yn cael eu cynghori i gadw draw o Afon Irfon ger Llanfair-ym-Muallt wedi i nifer o gimychiaid prin gael eu darganfod yn farw yn y dŵr.

Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae’n bosib mai pla cimwch yr afon sydd wedi achosi hynny.

Mewn datganiad maen nhw’n dweud bod cimychiaid marw wedi eu darganfod ar hyd tua thair milltir o’r afon ar 28 Mehefin.

Maen nhw’n dweud “nad oedd unrhyw arwyddion amlwg o lygredd, ac roedd creaduriaid eraill yr afon yn ymddangos yn iawn, gan arwain swyddogion i amau pla cimwch yr afon”.

Dyw pla cimychiaid yr afon ddim yn effeithio ar bobl, anifeiliaid anwes na bywyd gwyllt arall, medd CNC.

Ond mae’r pla, sydd ond yn lladd cimychiaid yr afon, yn lledaenu’n hawdd rhwng afonydd.

“Os bydd ci yn mynd i mewn i’r afon heintiedig ac yn mynd i afon arall yn ddiweddarach, gallai ledaenu’r clefyd,” esboniodd CNC.

Mae gofyn i’r cyhoedd aros allan o’r dŵr er mwyn diogelu’r rhywogaeth prin.


Source link

Advertisements

See also  Ni all Gething aros wrth y llyw, medd ASau gwrthbleidiau'r Senedd

Check Also

Dau beilot wedi eu hanafu mewn damwain awyren RAF ar Ynys Môn

Mae dau beilot wedi cael eu hanafu yn dilyn adroddiadau o ddamwain yn ymwneud ag …

Emergency response to aircraft crash on Anglesey

Two pilots have been injured after reports of a crash involving RAF training aircraft. North …

Yr hanesydd o Lansannan sy’n mabwysiadu ieir

Ar hyn o bryd mae Mari’n rhoi gofal arbenig i Shakira sydd wedi dod ati …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime