google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Celfyddydau’n haeddu’r un arian ag iechyd ac addysg – canwr opera

Advertisements

Wrth gyhoeddi’r £4.4m y flwyddyn ar gyfer y celfyddydau a diwylliant, dywedodd y Gweinidog dros Ddiwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth, Jack Sargeant, bod y “buddsoddiad ychwanegol sylweddol hwn yn dangos ein hymrwymiad i sectorau diwylliannol a chelfyddydol Cymru”.

“Nid ydym o dan unrhyw amheuaeth ynghylch yr heriau sy’n wynebu llawer o’n hamgueddfeydd, theatrau a mannau diwylliannol ac mae’r gyllideb hon yn gam sylweddol ymlaen o’r sefyllfa yr oeddem ynddi y llynedd, ac yn gyfle go iawn i symud tuag at sylfaen fwy diogel a chynaliadwy, a pharhau â hynny yn y dyfodol.”

Ychwanegodd y byddai’r arian yn “helpu i ddiogelu a gwarchod diwylliant, celfyddydau, byd cyhoeddi a chwaraeon llawr gwlad Cymru, gan gefnogi eu rôl hanfodol mewn addysg, ymgysylltu cymunedol a thwristiaeth”.

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi croesawu’r arian ychwanegol, gan ddweud y bydd yn “edrych yn fanwl ar ein cyllideb flynyddol i weld sut orau i ariannu’r sector” o ganlyniad.

Ychwanegodd y prif weithredwr Dafydd Rhys y byddai’n “gwella gwytnwch” y cyngor, ac yn “fodd inni gynnig rhagor o arian a chyfleoedd i’r sefydliadau celfyddydol a’r artistiaid lu sy’n creu Cymru o ddiwylliant ffres a chymunedau bywiog”.


BBC News

Views: 0

See also  Swansea City employee gets one year football ban for betting

Check Also

Wrexham news: Josh Windass to miss Leeds United test

Wrexham have enjoyed a positive start to what is a tough pre-season schedule. They held …

Ailagor canolfan fwyd cymunedol o fewn 48 awr i gar ddifrodi’r adeilad

Digwyddodd y gwrthdrawiad tua 16:00 ddydd Mercher pan aeth car am yn ôl i mewn …

Kemi Badenoch ‘worried’ about Welsh government demands for more powers

The leader of the UK Conservatives has said she “would be very worried” about a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The north face back to berkeley track shoe tnf black/tnf white 7.