google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

CBAC yn ymddiheuro am gamgymeriad mewn papur TGAU Cymraeg

Advertisements

“Hoffai CBAC ymddiheuro am y gwall wnaeth effeithio ar rai myfyrwyr oedd yn ateb ar un rhan o’n papur TGAU Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg,” meddai llefarydd.

“Er ein bod yn cynhyrchu nifer sylweddol o gwestiynau arholiad bob blwyddyn, mae digwyddiad o’r fath yn rhywbeth prin iawn, ac rydym yn cymryd y mater hwn o ddifrif.

“Byddwn yn parhau i adolygu ein prosesau er mwyn sicrhau nad yw rhywbeth o’r fath yn digwydd eto.

“Hoffem roi sicrwydd i fyfyrwyr bod gennym weithdrefnau cadarn yn eu lle i sicrhau na fyddant o dan unrhyw anfantais ac y byddant yn cael eu trin yn deg.

“Caiff ystyriaeth ofalus ei rhoi i bob ateb arholiad yn ystod y broses farcio a graddio er mwyn gwneud yn siŵr bod y canlyniad mae myfyrwyr yn ei dderbyn am eu cymhwyster yn un teg.”

Dyma’r arholiadau cyntaf ar gyfer y cwrs TGAU Cymraeg Iaith a Llenyddiaeth newydd fel rhan o ddiwygiadau i gymwysterau yn sgil y cwricwlwm newydd.

Mae pryderon eisoes wedi eu codi am bwysau ychwanegol ar ddisgyblion ac athrawon oherwydd y newidiadau i rai o’r cymwysterau.


BBC News

Views: 1

See also  Wilfried Kanga: Loan striker leaves Cardiff to join Dinamo Zagreb

Check Also

Megan Barker reclaims title at National Road Championships

Megan Barker reclaimed her British elite women’s circuit race title as the second day of …

Future generations being failed if more trees not planted, experts say

Red tape is making it “far easier” to cut woodlands down in Wales than to …

Biliau llety gwyliau o £15,000 yn gwneud i deulu ystyried gadael Powys

Mae hi’n ofni na fydd y bythynnod yn cyrraedd y trothwy yn y dyfodol, ac …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
You have been rate limited for making too many requests in a short time frame.