google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu gyrrwr tacsi a dreisiodd menyw ar ôl ei gyrru adref

Advertisements

Mae gyrrwr tacsi o Sir Gâr wedi cael ei garcharu am dreisio menyw ar ôl ei gyrru adref ar ôl noson allan yn Aberystwyth.

Roedd Dominic Dalton, 30 o Bencader, yn gwadu cyhuddiad o dreisio’r fenyw, gan fynnu iddi gydsynio i gael rhyw.

Ond wedi llai na dwy awr o drafod y dystiolaeth, fe ddyfarnodd rheithgor yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf yn unfrydol ei fod yn euog.

Cafodd ei ddedfrydu ddydd Mercher i naw mlynedd o garchar.

Roedd y fenyw wedi treulio’r noson gyda ffrind yn Aberystwyth nos Sadwrn 24 Chwefror 2024, cyn i’r ddau gamu i dacsi Dalton.

Aeth â’r ffrind adref gyntaf, cyn cludo’r dioddefwr i’w chartref hithau, ond ni chafodd y siwrne ei chofnodi heibio i gartref y cyfaill, ac fe honnodd Dalton i’r llys bod mesurydd y tacsi wedi stopio gweithio.

Yn y car roedd y fenyw’n cysgu ac yn deffro bob yn ail, ac fe wnaeth Dalton ei deffro a’i helpu i’w chartref ac i’w hystafell wely, ble syrthiodd yn ôl i gysgu.

Dywedodd iddi ddeffro a sylweddoli bod Dalton yn ei threisio.

Fe redodd i’r gegin i nôl cyllell, gan sgrechian arno i adael.

Pan wrthododd â gwneud hynny, fe lwyddodd y fenyw i ffoi o’r eiddo yn droednoeth, gan rwygo teiars y tacsi cyn cael cymorth mewn tŷ cyfagos a ffonio’r heddlu.


BBC News

Views: 1

See also  Hollie Arnold will feel the pressure at Paris Games - Whitbread

Check Also

Drama about Worboys an important story to tell, says actress

Believe Me tells the story of the victims of one of the most prolific sex …

Gareth Bale more ‘complete’ than Cristiano Ronaldo – Manchester United’s Casemiro

Manchester United’s former Real Madrid midfielder Casemiro says Cristiano Ronaldo is the greatest footballer he …

Women’s Six Nations: Wales players back boss Sean Lynn 100% before Italy game

Sean Lynn took over at the start of the 2025 Six Nations and could be …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Florida filmmaker, commercial director & ai video creator. Just a moment.... Ipl 2026 start date.