google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 10 2026

Afonydd a thraethau Môn yn ysbrydoli Cadair a Choron yr Eisteddfod

Advertisements

Eglura Siôn hefyd ei fod yn “benderfynol o ffeindio coed cynaliadwy lleol o ansawdd”.

“Yn y diwedd, ar ôl chwilio a chwilio, fe weles i goeden onnen wedi ei melino draw yng Nghwm Cynfal, ger Blaenau Ffestiniog, ac ro’n i’n gwybod y byddai’n berffaith ar gyfer y gadair.

“Mae yna hanes lleol arbennig iawn i bren cymalau’r gadair,” esbonia Siôn.

“Mae criw o wirfoddolwyr o Rosneigr wedi cario hen fad achub yn ôl i’r pentref yn ddiweddar i’w harbed rhag cael ei llosgi. Cwch o’r enw Thomas Lingham y 4ydd.

“Fe adawodd y pentref yn 1924, ac mae’n bosib i’r cwch fod yno yn ystod cyrch D-Day ar draethau Normandie.

“Fe ddaeth un o’r criw o wirfoddolwyr â sampl o bren y cwch i mi, i weld a fyddai gen i ddiddordeb ei hatgyweirio a dyma’r pren dwi wedi ei ddefnyddio i wneud lletem, neu wedges y gadair.

“Felly mae rhan fach o hanes rhyfeddol y bad achub o Rosneigr bellach yn rhan o gadair Eisteddfod Môn hefyd.”


BBC News

See also  Child 'thrown from ride' and 'bombshell new poll'

Check Also

Doctors warn of health crisis in young and killer fled to Swansea

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Wrexham couple spent £23,000 on fertility treatment but now embryos will be destroyed

The UK fertility regulator HFEA has said that any change in the law on sperm …

Wales risks raising ‘one of the unhealthiest generations in decades’

The report highlighted a significant amount of concern among parents about the state of services. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime