google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu gŵr a gwraig wnaeth adael bwytai heb dalu

Mae gŵr a gwraig o Bort Talbot wedi cael eu carcharu ar ôl gadael pum bwyty yn ne Cymru heb dalu.

Cafodd lluniau camerâu cylch cyfyng o Bernard McDonagh, 41, a’i wraig Ann, 39, yn bwyta prydau mewn bwyty yn Abertawe eu rhannu’n eang ar y cyfryngau cymdeithasol ym mis Ebrill.

Plediodd y cwpl, o Sandfields, yn euog i fethu â thalu biliau bwyty rhwng Awst 2023 ac Ebrill 2024 yn Llys Ynadon Abertawe yn gynharach ym mis Mai.

Cafodd Ann McDonagh, a wnaeth hefyd bledio’n euog i ddwyn o ddwy archfarchnad ac un achos o atal gwaith yr heddlu yn fwriadol, ddedfryd o 12 mis tra cafodd ei gŵr wyth mis.

Mae’r ddau hefyd yn gorfod talu iawndal o £2,185.


Source link

Views: 0

See also  Dros 60% yn ansicr o'r newidiadau i system bleidleisio'r Senedd meddai arolwg

Check Also

Cwis: Tafodiaith Ynys Môn – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

‘Dynion yn disgyn trwy’r tyllau’ – galw am sgrinio canser y prostad

Wrth sôn am ei brofiad ei hun, dywedodd Gwyndaf Jones iddo fynd at y meddyg …

Nazanin Zaghari-Ratcliffe tells Hay Festival about sewing in Iranian prison

“When your freedom is restricted – whether you are in prison, in my case, or …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.