google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu cyn-gapten RGC am droseddau cyffuriau a gyrru’n beryglus

Advertisements

Cafodd Francis ei ddedfrydu i 21 mis o garchar ym mis Mawrth 2020 am achosi niwed corfforol difrifol i heddwas.

Yn ystod yr achos diweddaraf dywedodd yr erlyniad fod oriawr Rolex a £18,000 wedi cael eu cymryd gan Francis, yn ogystal â chocên oedd â gwerth posib o £21,000.

Clywodd y gwrandawiad hefyd ei fod wedi anwybyddu golau coch a tharo cerbyd arall tra’n ceisio ffoi rhag yr heddlu, gan anafu dau o bobl oedd yn y cerbyd arall.

Dywedodd y barnwr Niclas Parry fod Francis yn “ddeliwr stryd amlwg” a bod y swm o arian a gafodd ei ddarganfod yn brawf ei fod yn droseddwr “difrifol”.

“Wrth geisio dianc roeddech chi’n rhan o achos difrifol o yrru yn beryglus,” meddai’r Barnwr Parry.

“Roeddech chi’n benderfynol o ddianc, ac ar un pwynt roeddech chi’n gyrru ar gyflymder o 139mya”.

Yn ogystal â’r ddedfryd o garchar, bydd Francis yn cael ei wahardd rhag gyrru am ddwy flynedd wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar, a bydd rhaid iddo sefyll ei brawf eto.


BBC News

Views: 1

See also  Stephen Williams yn ennill ras seiclo La Flèche Wallonne

Check Also

Wrexham man took ‘vulnerable’ wife out of hospital over fears for her safety

A man whose wife was hospitalised by health complications due to a benign tumour said …

Police hunt man following ‘violent disorder’ that left 56-year-old dead

Officers investigating a report of violent disorder which led to the death of a 56-year-old …

‘Staen ar ein cymdeithas’: Pam nad yw gwersi Aberfan yn cael eu dysgu?

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder, sy’n goruchwylio’r Awdurdod Iawndal am Anafiadau Troseddol, fod …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa basic units (battery carrier). elfbar elfa kit.