google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carcharu chwaraewr snwcer am ymosod ar ei bartner

Mae chwaraewr snwcer o Gymru wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd o garchar am ymosod ar ei bartner.

Cafodd Michael White, 33, o Gastell-nedd, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe ddydd Iau am ymosodiad a achosodd niwed corfforol gwirioneddol.

Dywedodd Cymdeithas Biliards a Snwcer Proffesiynol y Byd (WPBSA) ei fod wedi colli ei le ar Daith Snwcer y Byd a rhestr detholion y byd.

“Nid yw’r WPBSA yn goddef ymddygiad o’r fath gan aelod, ac rydym wedi cymryd camau ar unwaith i dynnu Michael White fel aelod,” meddai llefarydd.

Dywedodd y sefydliad ei fod wedi bod yn monitro’r achos llys ac wedi galw cyfarfod brys yn dilyn y ddedfryd.

Bydd aelodaeth White yn dod i ben “ar unwaith”.

White oedd y chwaraewr ieuengaf i sgorio canrif mewn cystadleuaeth, a hynny pan oedd yn oed naw oed, ac roedd yn bencampwr amatur y byd yn 14 oed.

Enillodd ei dlws mawr cyntaf yng Nghystadleuaeth Agored India yn 2015.

Roedd yn 60ain yn rhestr detholion y byd cyn iddo gael ei wahardd.


Source link

Views: 1

See also  Cyllideb Ddrafft: 'Sut all gofalwyr wneud popeth heb mwy o help?'

Check Also

Diffyg ar yr haul mwyaf ers 1999 yn cael ei weld ar draws y wlad

Mae diffyg ar yr haul yn digwydd pan mae’r lleuad yn symud rhwng yr haul …

Dolly Parton just gorgeous’ recalls The One Show Alex Jones

Dolly Parton may be known for her glamorous wigs and full face of make-up, but …

Lluniau: Dydd Mawrth yn Sioe Môn

Mae Sioe Môn yn un o’r gwyliau amaethyddol fwyaf yng Nghymru, gan ddenu degau o …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
elfbar elfa kit. Elfbar 600 nicotine freeelfbar elfbar bc10000 elfbar bc5000 elfbar vape store.