google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cannoedd yn mentro i’r môr yn Ninbych-y-Pysgod

Fe wnaeth nifer fentro i ddŵr oer y môr yn Ninbych-y-pysgod fore Iau – un o draddodiadau Gŵyl San Steffan yr ardal.

Trefnir y digwyddiad gan Gymdeithas Nofio Môr Dinbych-y-pysgod, ac mae wedi dod yn un o uchafbwyntiau Nadoligaidd Cymru dros y blynyddoedd gan gychwyn dros hanner can mlynedd yn ôl.

Dros y blynyddoedd, mae wedi codi miloedd ar gyfer elusennau ac achosion da lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Mae poblogrwydd y digwyddiad yn parhau i dyfu wrth i gannoedd redeg i’r môr.

Thema’r wisg ffansi ar gyfer eleni oedd Archarwyr a hynny fel teyrnged i weithwyr bad achub yr RNLI – sefydliad sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 200 oed.


Source link

Advertisements

See also  Cronfa leol y Garreg Las 'wedi codi mwy o arian nag unrhyw Eisteddfod erioed'

Check Also

Cyfarwyddwr y Cenhedloedd ‘erioed wedi gweld sefyllfa mor ddifrifol’ i’r BBC

Wrth ymateb i gwestiwn am y posibilrwydd o ragor o doriadau yn y dyfodol, pwysleisiodd …

Tân ym Melin Wlân Ceulan yn Nhal-y-bont, Ceredigion

Roedd Melin Ceulan, sydd ar lan afon Ceulan, yn felin wlân brysur a llewyrchus ar …

Prydau ysgol am ddim i filoedd yn fwy o blant uwchradd yn ‘gam cyntaf pwysig’

Roedd Anna Brychan AS yn trafod ar yr un rhaglen ar Radio Cymru fore Gwener …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime