google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cân i Gymru: Newid y system bleidleisio wedi trafferthion

Advertisements

Daw’r newid i’r system ar ôl i nifer o wylwyr fynegi rhwystredigaeth y llynedd wedi iddyn nhw gredu eu bod methu pleidleisio oherwydd nam technegol.

Yn ôl S4C, cafodd 17,000 o bleidleisiau eu cyfri, ac roedd hynny “llawer yn fwy na’r cyfanswm y llynedd [2023]”.

Roedd 10 gwyliwr wedi cysylltu ag Ofcom yn dweud eu bod wedi cael trafferthion wrth geisio pleidleisio.

Fe wnaeth y rheoleiddiwr ymchwilio i’r mater, gan nodi yn eu hadroddiad y bu “nam technegol gyda’r system bleidleisio” a bod “rhai gwylwyr wedi pleidleisio droeon, oherwydd na chafodd eu pleidleisiau ffôn eu cadarnhau yn ystod eu galwadau i’w cofrestru”.

Yn ôl Ofcom, roedd y ffordd y cafodd y bleidlais ei chynnal yn “annheg ac yn sylweddol gamarweiniol”.

Ond wrth ymateb i ymchwiliad Ofcom roedd S4C yn mynnu “nad oedd y nam ar y system wedi effeithio ar ganlyniad y gystadleuaeth” ac “nad oedd sail felly i ddod i’r casgliad bod S4C wedi tanseilio ymddiriedaeth gwylwyr neu wedi achosi tramgwydd”.


BBC News

See also  Flintshire driver with 229 points still holds valid licence

Check Also

Stanley Tucci spotted trying Welsh cakes at Cardiff Market

Actor Stanley Tucci was spotted visiting the food stalls at Cardiff Market and trying some …

‘Gofalwch gael yswiriant teithio digonol’ – mam merch o Lanrug gafodd ei hanafu yn Nhwrci

Ar ôl wyth diwrnod yn yr ysbyty, cafodd Greta ei chludo yn ôl i’r DU …

Cynllun cyfnewid gwisgoedd ysgol wedi cael effaith ‘syfrdanol’

Dechreuodd Jon y cynllun yn ysgol y plant, Ysgol Treganna, yn 2022 ac mae’n gweithio …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime