google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cynllun cyfnewid gwisgoedd ysgol wedi cael effaith ‘syfrdanol’

Advertisements

Dechreuodd Jon y cynllun yn ysgol y plant, Ysgol Treganna, yn 2022 ac mae’n gweithio gyda’r dirprwy bennaeth, Gareth Wyn Evans i gyfnewid gwisgoedd.

Dywedodd Mr Evans: “Mae be’ sydd wedi ei greu yn syfrdanol a ‘di cael effaith anhygoel i fod yn onest. Mae cwta 8000 o eitemau wedi cael cartref newydd, sydd wedi arbed tua £50,000 i rieni a cymuned Treganna.

“Yn ogystal â hynny, mae Tom wedi cymryd rôl flaenllaw yn cynnal gwasanaethau i blant yr ysgol, sydd yn sicrhau hefyd eu bod nhw’n cymryd rôl ac yn deall pa mor bwysig ‘di edrych ar ol y blaned.

“Be ‘da’n ni’n trio ei neud fel ysgol ydi casglu eitemau o eiddo coll ac yna dwi’n ista lawr efo Tom a chriw o ffrindiau a wedyn maen nhw’n didoli’r eitemau a wedyn ‘da’n ni’n cysylltu efo Jon a mae Jon yn dod i’r ysgol i gasglu’r eitemau.

“Da’n ni hefyd yn hyrwyddo’r wefan ar ein gwefannau cymdeithasol ni a’r cylchylythyr wythnosol er mwyn codi statws ac er mwyn i rieni wybod pa mor bwysig ydi’r fenter yma.”

Dywed bod yr adborth gan rieni wedi bod “yn hynod gadarnhaol. Mae nifer fawr o rieni yn defnyddio’r wefan, wedi helpu gyda’r gwaith ac mae’n arbed arian mewn cyfnod mor heriol yn ariannol”.

Ychwanegodd bod y wefan yn helpu gyda’r stigma sy’n gysylltiedig â thalu am wisgoedd ysgol.

“Dydi’r rhieni rwan ella ddim yn teimlo cywilydd o orfod dod i’r ysgol i gyfnewid dillad. Maen nhw’n gallu gwneud hyn yn eu hamser eu hun heb fod yn ymwybodol i bobl eraill bod hyn yn digwydd.”

Yn ogystal ag ysgolion yng Nghymru, mae ysgolion o bob rhan o’r Deyrnas Unedig – o Ogledd Iwerddon i Norfolk – yn defnyddio’r wefan.


BBC News

See also  Caldey Island: Sexual abuse victim says monk stole her childhood

Check Also

County Championship: Hampshire thwarted by rain in draw against Glamorgan

Resuming on the fourth morning at 124-2, Albert and Jake Lehmann played conservatively for 40 …

Mountain Bike World Championships: Tom Pidcock dedicates second title to Fin Tarling

Great Britain’s Tom Pidcock paid an emotional tribute to Fin Tarling after winning his second …

Is Swansea City’s attacking transfer business already paying off?

Improvements in the wide areas topped Swansea City supporters’ target list as the club entered …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime