google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yng Nghymru

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sul.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 11:00 a 23:59 ddydd Sul.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai’r tywydd garw effeithio ar deithio, seilwaith a gweithgareddau awyr agored.

Gallai’r glaw trwm hefyd arwain at lifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, yn ogystal ag amodau gyrru gwaeth a gwasanaethau trên yn cael eu gohirio.

Mae rhwng 10-15mm o law yn bosib mewn llai nag awr mewn rhai mannau, gyda 30-40mm yn bosib dros sawl awr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Gallai cesair, mellt cyson a hyrddiau gwynt o 35-45mya fod yn beryglon ychwanegol.

Mae disgwyl i’r stormydd mellt a tharanau gryfhau a dod yn fwy ynysig yn ddiweddarach gyda’r nos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Ffeibrosis systig: 'Ro'n i'n paratoi i farw - nawr rwy'n rhwyfo'r Iwerydd'

Check Also

BBC Wales cuts risk ‘irreversible deterioration’, warns first minister

In a reply, dated 2 November, Brittin responded that “the BBC takes its obligations to …

Bereaved families accuse Plaid ministers of betrayal over Covid review

In his Senedd announcement outlining the review, Constitution Minister Dafydd Trystan Davies there was “much …

Gyrrwr lori ‘gyda’i fab yn yr eiliadau olaf’ cyn taro gwifren drydan – cwest

Disgrifiodd contractwyr, oedd wedi gweld y digwyddiad, fflamau yn dod o deiars cefn y lori …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime