google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Camp pêl-gôl wedi newid bywyd fy mab’ medd Mam o Lanelli

Advertisements

Mae’r gamp yn un unigyrw, gan ei bod wedi cael ei chreu’n benodol ar gyfer pobl â nam ar eu golwg neu bobl ddall – yn hytrach na gêm arall wedi ei haddasu.

Nod y gêm yw sgorio yng ngôl y gwrthwynebwyr drwy fowlio’r bêl ar draws y llawr ac osgoi’r tîm amddiffynnol.

Mae dau dîm o dri ac mae pawb yn gwisgo mwgwd “felly ma’ pawb ar yr un lefel” esboniodd Helen wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru.

Wrth gyfeirio at ei mab Gareth, gafodd ei eni’n rhannol ddall ac sydd bellach yn 18 oed, dywedodd Helen bod y gamp “wedi newid ei fywyd e”.

“Fe odd yr unig ddisgybl yn yr ysgol â nam ar y golwg felly’n amlwg chi methu chware geme tîm” meddai.

“Wedyn pan ffindon ni dîm de Cymru nath e just agor gymaint o ddryse i fe – gath e ffrindie newydd.

“Nath e gwrdd â gymaint o bobl, a nath e benderfynu mynd i astudio yng Ngholeg Cenedlaethol Brenhinol y Deillion yn Henffordd oherwydd hynny” ychwanegodd.


BBC News

Views: 0

See also  Ateb y Carw: Llŷr Evans

Check Also

Mwy o Gymraeg yn y dosbarth wrth i athrawon gryfhau eu sgiliau iaith

Ychwanegodd Meinir Ebbsworth fod yna diwtoriaid dysgu Cymraeg i’r gweithlu addysg ymhob cwr o Gymru. …

House of the Dragon 3 work was surreal, says Welsh blacksmith

“I read Game of Thrones when I was younger growing up in the mountains,” Aaron …

Strictly star Amy Dowden unveils mini statue of herself in Caerphilly

Florist Nicola Downie dressed her shop window with Dowden’s face as part of the plans. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime