google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Calon… tyrd i garu’:Lluniau ymarfer cyntaf sioe newydd yr Urdd

Advertisements

Os ydych chi’n ffans o ganeuon Caryl Parry Jones mae cynhyrchiad newydd yr Urdd yn siwr o blesio…

Dros y Pasg fe wnaeth 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd i ymarferion cyntaf sioe gerdd newydd gan Caryl a Non Parry.

Ac fel mae’r lluniau yma yn dangos, roedd digon o hwyl wrth iddyn nhw actio a pherfformio fersiynau o glasuron ‘CPJ’ dros y degawdau.

Dyma sioe ddiweddaraf Cwmni Theatr yr Urdd ers ail-gydio mewn cynyrchiadau yn 2022.

Sefydlwyd y cwmni theatr yn yr 1970au er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Fe fydd Calon, sy’n gyd-weithrediad gyda Theatr Cymru, yn cael ei lwyfannu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 27-29 Awst.


BBC News

See also  100 mlynedd ers darllediad cyntaf stiwdio'r BBC yn Abertawe

Check Also

Welsh Gender Service surgical referrals paused for clinical review

The Welsh Gender Service has paused scheduled and new referrals for gender-affirming surgeries, after the …

World Rowing Championships: Ben Pritchard retains PR1 sculls world title in Amsterdam

Welsh Para-rower Ben Pritchard retained his PR1 men’s single sculls world title at the Rowing …

“Braw” Mam o Gaerfyrddin o ddarganfod diabetes Math 1 ei merch

Er ei bod yn ferch ffit ac heini sy’n mwynhau chwaraeon, dechreuodd Olwen sylwi ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime