google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Caernarfon yn ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes

Advertisements

Sicrhaodd Caernarfon Gwpan Cymru am y tro cyntaf yn eu hanes gyda thair gôl gynnar yn profi’n ddigon i guro’r Fflint o 3-0 yn y rownd derfynol yng Nghasnewydd.

Dechreuodd Caernarfon y gêm gyda phwrpas ac fe sgoriodd Sion Bradley i’w rhoi ar y blaen wedi saith munud yn unig.

Pum munud yn ddiweddarach cafodd Bradley ei lorio ar ymyl y cwrt cosbi ac fe sgoriodd Matty Jones yn gelfydd gyda’r gic rydd.

Cic gornel gan Jones arweiniodd at y drydedd gôl gan Adrian Cieślewicz, gyda’r peniad yn taro’r trawst ac yn glanio tu ôl i’r llinell.

Mae’r fuddugoliaeth yn sicrhau lle Caernarfon yng Nghyngres Europa y tymor nesaf – eu hail ymddangosiad yn Ewrop

Bydd Fflint, oedd yn ceisio ennill Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 1954, yn troi eu golygon i sicrhau eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru gydag un gêm o’r tymor yn weddill, yn erbyn Met Caerdydd yr wythnos nesaf.


BBC News

Views: 1

See also  Wales captain Jac Morgan wants winning send off for coach Matt Sherratt

Check Also

New Wales football kit slammed by fans as Adidas swapped for SUDU

Wales football fans have been left divided over the country’s new home kit, with some …

Teyrnged i ddyn a fu farw ar ôl cael ei daro gan sawl cerbyd

Mewn datganiad byr ddydd Gwener, dywedodd ei deulu ei fod “yn ŵr a thad serchus”. …

Cardiff men accused of trafficking teens to Thailand as drug couriers

Three men are accused of trafficking teenagers to Thailand as part of an international drug …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Top losers the bitcoin street journal. Rad 140 and mk 677 value pack.