google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cadarnhau achosion o ffliw adar yng ngogledd a de Cymru

C32e35a0 5267 11f0 bd3c ef3c6f7203cb.jpg

Advertisements

Mae achosion o ffliw adar wedi cael eu cadarnhau yng ngogledd a de Cymru, meddai’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).

Cafodd un achos ei ddarganfod yng Nglyn Ceiriog, Wrecsam ddydd Mawrth a chafodd y straen, H5N1, ei ddisgrifio fel un “pathogenig iawn”.

Mae ail achos wedi’i gadarnhau yn ardal Hwlffordd, Sir Benfro ar yr un diwrnod.

Mae parthau gwarchod bellach mewn grym o amgylch y lleoliadau.

Y cyngor gan yr APHA i bobl sy’n cadw adar ydy i fod yn wyliadwrus a “dilyn mesurau bioddiogelwch llym i atal achosion yn y dyfodol”.

Dywedodd Adran Materion Gwledig Llywodraeth Cymru wrth bobl am beidio â chyffwrdd adar meirw, ond yn hytrach i’w hadrodd i’r awdurdodau.


BBC News

Views: 1

See also  Cynnydd o 6000% o dipio anghyfreithlon yng Nghasnewydd

Check Also

Ned Leonard: Glamorgan fast bowler signs contract extension

Glamorgan fast bowler Ned Leonard has signed a two-year contract extension to the end of …

Neco Williams: Wales defender ready to put feet up after marathon season

Williams was a key player for Forest last term, playing in 53 games as they …

Paralympic champion backs plans to fine airlines which fail disabled travellers

The Paralympic champion said an airline staff member once asked her if she had “ever …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
ad campaigns are created automatically based on each website’s content.