google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bwyty arall yn cyhuddo cwpl o adael heb dalu

Roedd cael profiad o bobl yn gadael heb dalu a gweld eraill yn cael eu targedu yn “anodd” i’r teulu.

Roedd e’n “dorcalonnus” yn enwedig ar ôl blynyddoedd “anodd” i’r diwydiant lletygarwch yn ddiweddar, y pandemig, a’r argyfwng costau byw.

“Rydym yn fusnes bach annibynnol teuluol. Mae fel tynnu bwyd oddi ar ein bwrdd,” meddai.

“Chi ddim yn meddwl y byddai gan unrhyw un y galon i wneud hynny, ar ôl popeth rydyn ni i gyd wedi bod drwyddo ac mae pawb yn gwybod bod y diwydiant lletygarwch yn ei chael hi’n anodd iawn.”

Ar ôl clywed am droseddau’r McDonaghs, ychwanegodd: “Sut oedd ganddyn nhw’r cydwybod i fynd o gwmpas a gwneud hynny dro ar ôl tro?

“Yn ffodus ddim mwyach, oherwydd maen nhw wedi cael eu dal.”

Dywedodd Heddlu De Cymru: “Pan gafodd y drosedd hon ei hadrodd am y tro cyntaf, doedd neb yn gwybod pwy oedd y rhai a oedd yn cael eu hamau.

“Dim ond ar ôl digwyddiad diweddarach a’r sylw iddo y gwnaeth swyddogion allu cysylltu’r ddau ddigwyddiad.

“Mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn Y Bont-faen yn parhau.”


Source link

Views: 1

See also  Joe Allen: Swansea City midfielder set for Wales return

Check Also

Keenan Patten: Midfielder agrees short-term Newport County contract

Midfielder Keenan Patten is to stay at Newport County after agreeing a new short-team deal …

Sir Paul McCartney signed book found in charity shop sells for nearly £1,000

Randle said: “The book had actually been sitting on a shelf for a few months …

Nations Championship: Wales suffer Dafydd Jenkins injury blow

Cardiff loose-head prop Rhys Barratt and Dragons back-row forwards Harri Keddie and Ryan Woodman all …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Toggle google analytics.