google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bwriad i gau tair ysgol gynradd yn Sir Gâr yn 2026

Advertisements

Mae cynghorwyr yng Nghaerfyrddin wedi pleidleisio o blaid ymgynghori ar y posibilrwydd o gau dwy ysgol gynradd ac i fwrw ymlaen â chau trydedd y flwyddyn nesaf.

Bydd ymgynghoriadau ar ddyfodol Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn ac Ysgol Meidrim yn cael eu cynnal am chwe wythnos o 13 Ionawr tan 24 Chwefror, ac mi allai’r ddwy gau ym mis Rhagfyr 2026 os ydy’r cyngor yn bwrw ymlaen gyda’r cynllun.

Yn ôl ystadegau’r cyngor mae 31 o ddisgyblion yn Ysgol Meidrim, sydd â chapasiti ar gyfer 54 , a 15 yn Ysgol y Fro, sydd â chapasiti ar gyfer 46.

Penderfynodd aelodau’r cabinet i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llansteffan ddiwedd Gorffennaf 2026.

Mae’r cyngor yn dweud bod yna wyth o ddisgyblion yn Ysgol Llansteffan ond mae’r rhieni yn dweud bod y niferoedd wedi cynyddu i 14 ers i’r arolwg gael ei gynnal.

Mae’r tair yn ysgolion cyfrwng Cymraeg.


BBC News

See also  New £33m hospital unit to be built in north Wales

Check Also

Conwy councillors advised to refuse Llanfairfechan car park plans

Councillors are being advised to refuse their own council’s planning application for extra seafront parking …

Hayden Mullins: Newport County boss aims to build on impressive home starts

Having seen his side lose to an 87th minute goal at Northampton in their most …

Mam wedi marw o ganser ar ôl aros naw mis am ganlyniadau profion

Rhoddodd Ben Daniels, gŵr Sarah, dystiolaeth ysgrifenedig gan ddweud bod Sarah, pan y cafodd hi …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime