google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Brodyr yn cyfarfod am y tro cyntaf ar ôl tua 60 mlynedd

Advertisements

Cafodd y ddau eu geni yn Llundain i’w rhieni, Ray a Jill, ond dim ond 15 oed oedd y fam pan gafodd Peter ei eni.

Roedd stigma ynghlwm â sefyllfaoedd o’r fath yn yr 1950au, oedd yn golygu ei fod wedi cael ei roi i’w fabwysiadu a’i gludo i Awstralia, lle cafodd ei fagu.

Aeth y diweddar Ray a Jill ymlaen i briodi ar ôl i’w mab cyntaf gael ei fabwysiadu.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach cafodd Russell ei eni ac yna chwaer o’r enw Jackie, sydd hefyd wedi marw.

Bu Peter yn byw’r rhan fwyaf o’i oes yn Awstralia, heb wybod y gwir am ei deulu genedigol tan i’w chwaer fabwysiedig ddweud wrtho yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Llwyddodd ei wyres yn Awstralia i ddarganfod Russell, sydd wedi byw yn Llanharan ers dros 30 mlynedd ac mae profion DNA wedi’u cynnal i gadarnhau’r cysylltiad.


BBC News

Views: 3

See also  Agwedd Ysgrifennydd Cymru at yr iaith Gymraeg yn 'ddeinosoraidd'

Check Also

Mark Hughes’ son died of sudden adult death syndrome

The son of former Manchester United footballer Mark Hughes died from sudden adult death syndrome, …

Swansea City: Right foundations now in place, says Tom Gorringe

Swansea ended 2024-25 in 11th place after an upturn in form under Alan Sheehan, only …

Tudur Dylan wedi’i ethol i fod yr Archdderwydd nesaf

Mae’r Prifardd Tudur Dylan wedi cael ei ethol i fod yr Archdderwydd nesaf, i olynu …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa basic units (battery carrier).