google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Blwyddyn ers cau’r ffwrneisi chwyth, sut mae Port Talbot yn ymdopi?

Advertisements

O’r bobl a adawodd y gweithfeydd dur y llynedd, mae rhai wedi symud i ddiwydiannau newydd tra bod eraill wedi creu cwmnïau ei hunain.

“Mae ‘na rhai sy’ dal i drafferthu i ddod o hyd i lwybr newydd,” meddai Levi Roberts, a gollodd ei swydd ar y diwrnod olaf o weithredu’r ffwrnais chwyth.

Mae Mr Roberts, sy’n 29, wedi sefydlu busnes newydd yn gwerthu pizzas, ac wedi troi fan ceffylau yn stondin i fynd a’i fusnes newydd ar daith.

Dywedodd i’r sefyllfa ym Mhort Talbot fod yn “dipyn o sioc oherwydd roedden ni’n cael cyflog da iawn gyda Tata” a’i fod wedi troi’n “gyfnod brawychus” i’r rheiny gyda morgeisi a phlant i’w cefnogi.

Er hynny, mae’n dweud fod y profiad o golli swydd yn y gwaith dur wedi troi’n gyfle gwych iddo.

“I mi fy hun, mae’n debyg mai dyma oedd un o’r pethau gorau a allai fod wedi digwydd.

“Cic lan fy mhen-ôl i fynd ar ôl fy mreuddwydion.”


BBC News

Views: 0

See also  A mix of emotions as East Wing demolished

Check Also

Brothers who were racing home guilty of killing man and seriously injuring son

Rhys Jenkins died at the scene and his son was airlifted to hospital after being …

Brodyr yn euog o achosi marwolaeth dyn mewn gwrthdrawiad ym Mhowys

Clywodd Llys y Goron yr Wyddgrug fod Abubakr ac Umar Ben Yusaf, y ddau yn …

Gyrrwr beic trydan yn pledio’n euog ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

Roedd Mr Bevan wedi ei adael â chyfergyd difrifol a thoriadau i’w wyneb wedi’r gwrthdrawiad …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
© 2026 coconut point residences. car transport alabama.