google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 12 2026

Llafur Cymru i gael arweinydd newydd erbyn mis Tachwedd

Dywedodd ffynhonnell fod pleidlais mewn cyfarfod o bwyllgor gweithredol y blaid yng Nghymru, a gafodd ei gynnal ddydd Sadwrn, wedi pleidleisio o drwch blewyn o 12-11 o blaid amserlen mis Tachwedd.

Dywedodd y ffynhonnell fod angen arweinydd parhaol yn ei le cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi i Lafur “gael ei gwthio i ddinodedd”.

Mae’r BBC ar ddeall bod Llafur wedi siarad â sawl cwmni ymgynghori ynglŷn â chynnal yr adolygiad, ac mae disgwyl iddo gymryd nifer o fisoedd i’w gwblhau.

Galwodd un ffynhonnell Llafur am “sgwrs agored” ac nid ymchwiliad a ddaeth i gasgliadau tebyg i erthygl ar ôl yr etholiad a gafodd ei ysgrifennu gan Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens, a oedd yn beio polisïau Llywodraeth Cymru gan gynnwys 20mya.

Roeddent yn ofni nad oedd y rhai a oedd am gael etholiad arweinyddiaeth gyflymach eisiau cyfaddef bod problemau gyda Llafur y DU neu fod y blaid wedi colli pleidleisiau i Blaid Cymru.

Camodd y cyn-arweinydd a’r prif weinidog Eluned Morgan i lawr y diwrnod ar ôl yr etholiad ar ôl methu ag ennill sedd yn y Senedd estynedig â 96 sedd.

Dim ond o grŵp y blaid yn y Senedd y gellir dewis arweinydd Llafur Cymru, ond dim ond wyth AS sydd gan y blaid, ac eithrio’r Llywydd Huw Irranca-Davies.

Mae cyn-brif weinidog arall, Mark Drakeford, wedi galw am gynnal cystadleuaeth, wrth i’r blaid geisio ailadeiladu a dod o hyd i ffordd newydd ymlaen.

Mae Skates wedi dweud nad yw’n disgwyl y bydd cystadleuaeth arweinyddiaeth ond na fyddai’n “digio” pe bai un.

Mae sawl person blaenllaw gan gynnwys Drakeford, Stevens a chyn-aelodau’r Senedd, Alun Davies, Lee Waters a Mick Antoniw eisoes wedi siarad yn gyhoeddus am yr hyn maen nhw’n ei weld fel rhai o’r rhesymau dros golled Llafur.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

See also  Meinir Mathias: 'Ysbryd y werin' yn ysbrydoliaeth i’w lluniau

Check Also

Wrexham ‘have to find a way back’ after West Ham thrashing – Parkinson

Jarrod Bowen scored his sixth goal of the season to set West Ham on their …

Cymru Premier: TNS boss Harrison sent off as Saints, Barry Town and Caernarfon all win

Jack Veale’s penalty snatched a point for Cardiff Met in a clash that saw both …

Zoos help to save snail found in only one lake in Wales

Rearing the snails – as well as other critically endangered invertebrates such as scarlet malachite …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime