google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Beth yw heriau’r hydref i Eluned Morgan a llywodraeth Lafur Cymru?

Addo i gyflawni blaenoriaethau’r bobl wnaeth Eluned Morgan ar ôl iddi gael ei dyrchafu ar frys fel prif weinidog.

Mewn ffordd, mae’r addewid yn gyfaddefiad nad oedd ei rhagflaenwyr wedi canolbwyntio digon ar yr hyn sy’n bwysig i bleidleiswyr.

Fe fydd Ms Morgan a’i thîm yn gobeithio gweld amseroedd aros y gwasanaeth iechyd yn gostwng yn yr ystadegau misol.

Ym Mehefin fe wnaeth nifer y bobl sy’n aros o leiaf dwy flynedd am driniaeth ddisgyn i lai nag 8,000 am y tro cyntaf ers y pandemig.

Pwy a ŵyr a fydd pleidleiswyr yn gwobrwyo Llafur am hynny, ar ôl i gynifer aros yn hir am driniaeth dros y blynyddoedd diwethaf.

Creu swyddi oedd un o addewidion eraill Ms Morgan, ac mae’r prif weinidog yn awyddus i ddangos bod trefnu uwchgynhadledd buddsoddi o dramor – fydd yn cael ei chynnal yng Nghasnewydd fis Rhagfyr – yn fuddiol.


BBC News

Advertisements

See also  Arrest after man in his 60s dies after alleged assault

Check Also

Wales aim to punch above weight on Rugby League World Cup debut

With an aggregate deficit of 144-0 in two matches against their neighbours to ponder before …

Swansea City squad depth the best since Premier League relegation, says Jay Fulton

Jay Fulton believes Swansea City’s current squad depth is the best it has been since …

Aberfan disaster hero dinner lady honoured for saving five children

“She was trying to protect children,” she said. “She died, and they lived.” Bickley believes …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime