google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Bachgen 18 mis wedi boddi mewn llyn ger Pencader – cwest

Dywedodd Hayley Rogers, swyddog y crwner, bod yr heddlu wedi derbyn galwad gan fenyw ofidus am 22:00 yn dweud nad oedd hi’n gallu dod i hyd i’w mab 18 mis oed.

Ar ôl chwilio o gwmpas yr adeilad a’r tir, am 22:45, daethpwyd o hyd iddo yn ddiymateb yn y llyn.

Ychwanegodd Ms Rogers “er gwaethaf ymdrechion gorau’r gwasanaethau brys” cafodd Finley ei gyhoeddi’n farw ychydig yn ddiweddarach “yn oriau mân y bore canlynol”.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ei fod yn “farwolaeth sydyn ac annisgwyl” a bod dim i awgrymu fod unrhyw un arall wedi chwarae rhan yn y farwolaeth.

Dywedodd yr uwch grwner dros dro, Paul Bennett, “nad oes unrhyw beth yn fwy trasig na marwolaeth plentyn ifanc” a bod hon yn “ddamwain drasig” oherwydd “cyfres o ddigwyddiadau nad oedd unrhyw un yn bwriadu iddynt ddigwydd”.

Cofnododd bod y farwolaeth yn ddamweiniol.


Source link

Advertisements

See also  Lluniau: Dydd Mawrth Eisteddfod yr Urdd

Check Also

Arweinydd cyngor yn ymddiswyddo ar ôl yfed gormod a disgyn

“Roedd yna amgylchiadau personol yn gefndir i’m hymddygiad hefyd, a dwi’n credu eu bod yn …

Y menopos ac ADHD: ‘O’n i’n teimlo mor wan a gwag’

Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn trafod iselder ac hunanladdiad a all beri gofid i rai …

Caerphilly driver jailed after veering into oncoming car on A468

A 20-year-old man who lost control of his car and crashed head-on into another driver …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime